Gareth Harris

Dysgwr Cymraeg

Rwyf wedi bod yn rhedeg e-ddatblygiadau ers 2010, ac wedi bod yn datblygu pecynnau hyfforddi ar-lein i nifer fawr o arbenigwyr pwnc mewn amrywiaeth o sectorau o lywodraethau lleol a chwmnïau gweithgynhyrchu mawr, o hyfforddi staff mewnol i hyfforddwyr busnes unigol sy’n defnyddio hyfforddiant o fewn eu sylfaen gleientiaid.

Cyn cychwyn fy musnes, treuliais 10 mlynedd yn gweithio i adran hyfforddi ar gyfer cwmnïau gwasanaethau ariannol. Yn ystod y cyfnod hwn, bu i mi greu adran e-ddysgu a darparu nifer o gyrsiau wyneb yn wyneb yn cynnwys hyfforddi, rheoli a datblygiad personol.


Rwyf wedi bod â diddordeb mewn datblygiad personol erioed ac wedi gwneud nifer o gyrsiau gwahanol ar gyfer hyn.

 

Gair i Gall

Peidiwch â chymharu eich Pennod 1 chi gyda Phennod 11 rhywun arall.

Gareth Harris
Gareth
  • Enw
    Gareth Harris
  • Enw'r busnes
    e-Development Training Ltd
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Dyfed