Gerry Wilkinson

Ers ymuno â Boardroom Advisors, mae Gerry wedi ymwneud â nifer fawr o gwmnïau technoleg sydd naill ai’n newydd neu wrthi’n tyfu, a hynny fel Cynghorydd ac o ran codi arian. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn Technoleg Ariannol, er i’w aseiniadau ymdrin ag amrywiaeth eang o fusnesau. Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, mae Gerry wedi gwneud gwaith cysylltiedig â thechnoleg cwmwl a’r broses o’i chyflwyno i BBaChau ac arferion Cyfrifyddu. Roedd yn gyfarwyddwr gwerthiannau i gwmni integreiddio cwmwl oedd yn tyfu’n gyflym, yn gwerthu ecosystemau ymgynghori a chwmwl yn ymwneud a’r system gyfrifyddu Xero.
Cyn ymuno â Boardroom Advisors, roedd Gerry yn Rheolwr Gyfarwyddwr Cognitive Research. Yn ogystal, mae wedi bod yn berchen ar, a rhedeg, dau westy. Roedd un o'r rhain yn  gyfleuster cynadledda mewn gwesty gwledig a’r llall yn westy pum seren. Roedd yn bartner mewn cwmni meddalwedd ac ymgynghori ariannol wedi’i leoli yn y Ddinas am dros ddeuddeg mlynedd, ac fe greodd un o ddatrysiadau Risg Gweithredol cyntaf y byd, yn cyfuno technegau modelu gwerth mewn perygl gyda dulliau goddrychol traddodiadol. Llwyddodd i godi $1m mewn cytundeb ennill ar ôl gwerthu (“earnout”) gwerth $16m am ei ddatrysiad system risg gweithredol, ond ni chyflawnwyd y cytundeb. Mae wedi bod yn rheolwr cynnyrch i gwmni risg gweithredol a chredyd wedi’i leoli yn y Ddinas, sef Raft International PLC.
 

Gair i Gall

Canolbwyntiwch ar refeniw gwerthiannau a thrin pawb fel yr hoffech chi gael eich trin, byddwch yn hapus a threuliwch amser gyda phobl ag agwedd gadarnhaol. Marathon yw rhedeg busnes, nid sbrint, felly cofiwch fod datrysiadau byrdymor yn gallu arwain at broblemau hirdymor.

Gerry Wilkinson
Gerry
  • Enw
    Gerry Wilkinson
  • Enw'r busnes
    Boardroom Advisors
  • Rôl
    Cyfarwyddwr Rhanbarthol
  • Lleoliad
    Cymru