Hayley Wheeler

Yn 2012 camodd Hayley i fod yn hunan-gyflogedig fel hyfforddwr bywyd, ac ers hynny mae wedi symleiddio ei gwasanaethau i gynnig hyfforddiant i oedolion a phlant yn benodol ar gyfer pryder, iselder a straen.

Mae Hayley yn hyfforddwr grymuso emosiynol, yn awdur, yn siaradwr cymhellol ac yn grëwr y model hyfforddi Dynamind ar gyfer busnes, bywyd ac arweinyddiaeth wedi’u grymuso gan emosiwn.

Mae ei busnes cyfredol yn ganlyniad o bum mlynedd ar hugain o rymuso plant ac oedolion, lle mae Hayley wedi cael y pleser o hwyluso canlyniadau trawsnewidiol.

Yn 2007, fe wnaeth sefydlu ei busnes cyntaf fel therapydd harddwch, gan adeiladu’r busnes o amgylch swydd llawn amser a phedwar o blant gyda’r nod o adael ei gwaith. Yn 2009 fe wnaeth y busnes gau. Rwyf bellach yn gwybod nad oedd ganddi’r wybodaeth, y gefnogaeth a’r rhwydweithiau i wneud i bethau weithio bryd hynny. Ni wnaeth hyn ei stopio.

Mae Hayley bellach yn gweithio gyda chleientiaid amrywiol o arweinwyr busnes, rheolwyr, a gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â phlant, rhieni a dioddefwyr cam-drin domestig. Mae ei gwaith yn helpu i wella ansawdd bywyd drwy ymwybyddiaeth emosiynol gynyddol a thwf personol.

Mae Hayley hefyd yn astudio am radd Meistr ar hyn o bryd gan ei bod yn teimlo fod dysgu yn ddatblygiad ac mae wrth ei bodd yn datblygu. Mae wedi syrthio i fentora busnesau bach yn naturiol ac mae’n teimlo’n angerddol am helpu perchnogion busnes i gydnabod eu potensial a chyflawni eu nodau.

Gair i Gall

Gwrandewch ar bawb a chofio’r wybodaeth fydd yn eich helpu gyda’ch busnes, mae profiadau eraill yn gyfle i ddysgu, tyfu a datblygu.

Hayley Wheeler
Hayley Wheeler
  • Enw
    Hayley Wheeler
  • Enw'r busnes
    Just the Beginning
  • Rôl
    Perchennog Busnes / Hyfforddwr
  • Lleoliad
    Sir Gaerfyrddin