Ian Mcdonald

Mae Ian yn beiriannydd ac entrepreneur profiadol gyda 30 mlynedd a mwy o brofiad yn y diwydiannau dŵr ac olew alltraeth. Mae'n Hyfforddwr Swyddogion Gweithredol a Mentor Arweinwyr ac yn gweithio gyda sefydliadau sydd am ddatblygu ffordd fwy cydwybodol o weithio, gan gefnogi rhanddeiliaid lluosog ar yr adeg hon o gymhlethdod cynyddol a newid cyflym.

Mae Ian yn dod ag ymwybyddiaeth o gymhlethdod, dull meddwl trwy systemau a dull cyfannol i ystafell fwrdd y sefydliadau hynny sy'n barod i fabwysiadu ffordd wahanol o feddwl ac sy'n derbyn bod parhau i wneud pethau'r un fath yn annhebygol o greu unrhyw beth newydd.

Mae'n dod ag ymagwedd sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth o ddeallusrwydd lluosog i’w gleientiaid, gan weithio i ddarparu twf cynaliadwy tymor hir mewn cyfnodau anodd.

Creodd Ian y rhaglen Cheshire Leadership ar gyfer sefydliadau a oedd yn awyddus i edrych ar wahanol safbwyntiau a newid eu dull gweithredu i fod yn safbwynt byd-eang mwy cyfannol.

Arbenigeddau: Ymgynghorydd Newid a Hyfforddi Swyddogion Gweithredol. Dynameg Droellog, Damcaniaeth Gyfannol, Deallusrwydd Dwfn, a datblygu modelau arweinyddiaeth datblygedig.

Mae gan Ian MSc mewn Ymwybyddiaeth Ddynol, a thystysgrif Lefel 7 ILM mewn Arweinyddiaeth Weithredol. Mae'n hyfforddwr cymwysedig ym maes Dynameg Droellog ac mewn Deallusrwydd Ysbrydol. 

  • Enw
    Ian Mcdonald
  • Rôl
    Hyfforddwr Swyddogion Gweithredol
  • Lleoliad
    Sir Ddinbych