James Parry

Ar ôl astudio seicoleg, gwyddoniaeth a chwaraeon, ymunais â’r sector manwerthu - cynhyrchion chwaraeon yn benodol. Yn annisgwyl, ar ôl cael swydd dymhorol fel cynorthwyydd, treuliais sawl blwyddyn yn y maes hwn. Wrth i mi ddysgu fy rôl fel rheolwr siop adnabyddus, dysgais am bob agwedd ar y diwydiant ac felly erbyn i mi droi’n 21 oed roeddwn i wedi gweithio fy ffordd i fyny i fod yn rheolwr y siop a datblygais y siop nes bod ganddi drosiant o £3 miliwn y flwyddyn.

Ar ôl treulio amser yn gweithio dramor dychwelais i'r DU yn siarad Sbaeneg fel ail iaith. Ymgartrefais yng Nghonwy a phenderfynu fy mod am ddefnyddio fy mhrofiad i wneud gwahaniaeth - roeddwn i eisiau helpu eraill i adeiladu eu disgwyliadau. Gyda chymwysterau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae fy ngwybodaeth wedi fy arwain i weithio yn y gymuned, gan ddefnyddio fy sgiliau i gefnogi pobl a chyrraedd fy nod fy hun. Felly, mae fy swydd bresennol fel cyswllt cymunedol FITC (pêl-droed yn y gymuned) yn rhoi cyfle i mi wneud hyn.

Pobl a manwerthu sy’n mynd â’m bryd a thrwy ddefnyddio fy ngwybodaeth, fy mhrofiad a’m sgiliau, gallaf gynnig cymorth i fusnesau yn y sector manwerthu neu sefydliadau dielw.

O ran sgiliau a chryfderau craidd a all helpu mewn unrhyw berthynas fentora, mae gen i sgiliau cyfathrebu a gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol a nodweddion rheoli ac arwain. Rwy'n barod fy nghymwynas, yn gwrtais, yn frwdfrydig, ac mae gen i ddiddordeb gwirioneddol mewn chwaraeon. Rydw i hefyd yn hen law ar ddefnyddio pecynnau Microsoft Office ac mae gen i brofiad yn y sectorau Manwerthu ac Iechyd a Chymuned.

Gair i Gall

Rhowch o’ch gorau ac ychydig mwy bob dydd!

James Parry
  • Enw
    James Parry
  • Rôl
    Swyddog Cyswllt Cymunedol
  • Lleoliad
    Conwy