James Wood

Wedi iddo gwblhau blwyddyn Sylfaen yng Ngholeg Celf Casnewydd, dechreuodd James ar ei yrfa ym Mehefin 1985 yn gweithio yn Brian Hughes Design ym Mrynbuga yn swyddfeydd Sector Design Group.
Ar ôl tair blynedd o ddylanwad creadigol, ailgydiodd James â’i addysg ddylunio ffurfiol yng Nghasnewydd, a graddio gyda BA (Anrhydedd) ym Mehefin 1991. Wrth astudio ar gyfer ei radd, roedd James yn fyfyriwr cyfnewid yn Hochschule, Luzern, y Swistir.
Ar ôl graddio, gweithiodd James i Barrie West Associates yn Ross-on-Wye ac yna Peter Gill Associates yng Nghaerdydd, ond ‘hunan gyflogaeth’ oedd ei ddyhead erioed.
Ffurfiwyd WOOD&WOOD Design Consultants yn Ebrill 1993.
Ers dros 25 mlynedd, mae WOOD&WOOD wedi ceisio parhau yn fach ac ystwyth, yn gweithio ar draws sectorau diwydiant i sefydliadau’r sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector. Bob amser yn darparu datrysiadau creadigol, gwreiddiol a sylweddol i’n cleientiaid gwaeth beth fo economeg, ffasiwn neu dechnoleg y cyfnod.
Yn ogystal, mae James wedi bod yn Ddarlithydd Gwadd am sawl blwyddyn ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Gorllewin Lloegr lle mae wedi addysgu cyrsiau BA (Anrh), B. Ed Arbennig a TAR, yn bennaf ar raglenni Dylunio Graffeg, ond hefyd cyrsiau Ffasiwn, Hysbysebu a Dylunio a Thechnoleg.
Mae James hefyd yn aelod o Fwrdd Rhwyfo Cymru.
Mae James wedi bod yn Fentor Busnes Cymru ers 4/5 mlynedd ac yn credu’n gryf yn y gwerthoedd cadarn, arbenigedd, effaith a dealltwriaeth y mae’r fenter yn ei darparu i egin fusnesau a busnesau sy’n tyfu.
 

Gair i Gall

Peidiwch â mynd i banig.

James Wood
Wood
  • Enw
    James Wood
  • Enw'r busnes
    WOOD&WOOD Design Consultants
  • Rôl
    Principal
  • Lleoliad
    Caerleon, Casnewydd