Jamie Phillips

Cymwysterau:
-    BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol (2012); Prifysgol Metropolitan Caerdydd
-    Tystysgrif Uwch mewn Hyfforddi Gweithredol (2019); Prifysgol Metropolitan Caerdydd
-    ILM 7 mewn Hyfforddiant Gweithredol a Mentora (yn cwblhau ar hyn o bryd)
-    Niwrowyddorau a newid (2021)

Fel hyfforddwr proffesiynol cymwys, rwy’n mwynhau creu amgylchedd ble mae pobl yn dangos mwy o’r gorau o’u hunain nag y byddent erioed wedi ei ddychmygu.  
Mae gweithio mewn gofal cymdeithasol am gyfnod o dros 16 mlynedd (9 mlynedd fel Gweithiwr Cymdeithasol yn gweithio’n bennaf gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd) wedi darparu ystod eang o brofiadau.  Rwyf wedi gweithio ym maes amddiffyn plant, gan gynnwys gweithio ym maes digartrefedd ac ecsbloetio ieuenctid. Mae gweithio gyda phobl a’u profiadau, o bob llwybr bywyd, wedi fy nysgu y gall ein teimladau ein hunain o ansicrwydd achosi ymddygiad sy’n achosi niwed, ac weithiau gall hynny fod yn ddinistriol, a chyfyngu ar ein potensial mewn gwirionedd.  Mae hyn hefyd yn cynnwys o fewn y byd busnes.  Gall ein potensial gwirioneddol fod yn cuddio y tu ol i’n hansicrwydd a gall diffyg eglurder ddatblygu oherwydd gorfeddwl a straen.
Rwy’n hoffi gweithio gyda phobl ar sail un i un neu o fewn sefydliad grŵp i’w helpu i wrando ar eu llais mewnol a datblygu ymatebion cadarnhaol.  Rwy’n angerddol dros gefnogi pobl i ddod o hyd i’r amser a’r gofod sydd ei angen ar gyfer eu twf a’u datblygiad personol a phroffesiynol. 
Rwy’n gweithio mewn cydweithrediad ag unigolion i’w helpu i ddod o hyd i ddatrysiadau ar gyfer eu hunain, gan eu grymuso i berchnogi eu problemau a chyflwyno eu datrysiadau eu hunain.  
Rwy’n herio mewn modd uniongyrchol ac adeiladol pan fydd angen ond rwy’n aml yn cael fy nisgrifio fel person hamddenol, caredig a thrugarog.   
Mae gen i ystod o fodelau a thechnegau hyfforddi sy’n arfau y byddaf yn eu defnyddio i weddu anghenion y cleientiaid - gan fod gen i ddiddordeb penodol mewn seicoleg dynnol a deall sut y gall niwrowyddorau effeithio ar newid a datblygu perfformiad.  

Gair i Gall

Rydym yn gweithio’n well o lawer pan ydym yn heddychlon ac yn glir ein meddyliau.  Sut ydych chi’n sicrhau eich bod yn ymateb yn heddychlon ac yn glir eich meddwl? 
Mae angen i ni ganolbwyntio ar sgiliau dynol (meddal), ond nid oes angen iddynt gael eu dysgu bob tro, weithiau mae angen anghofio’r hyn rydych wedi ei ddysgu! 
Mae gwendid a dewrder yn ddwy ochr o’r un geiniog  Perchnogwch eich gwendidau er mwyn dangos dewrder. 
 

Jamie Phillips
Phillips
  • Enw
    Jamie Phillips
  • Enw'r busnes
    Always Potential
  • Rôl
    Hyfforddwr Gweithredol a Thrawsnewidiol
  • Lleoliad
    Caerdydd