John Thompson

Yn ddiweddar, rwyf wedi symud ymlaen o fy swydd fel rheolwr ar gyfer rhaglen fentora Siambr Fasnach Swydd Stafford ar ôl mwynhau pum mlynedd yn y swydd honno.

Rwyf bellach yn ôl yn fy rôl fel perchennog a rheolwr JFT Associates, yn cynorthwyo busnesau i wella eu proffidioldeb gan ddefnyddio effeithlonrwydd proses, ac adolygiadau rheoli a gweithredol.

Rwy’n meddu ar achrediad Sfedi ar gyfer mentora ac rwyf wrth fy modd gyda’r heriau sydd ynghlwm â mentora; mae fy nghefndir mewn datblygiad strategol busnesau, defnyddio marchnata fel teclyn diagnostig cychwynnol ac yn dilyn hynny cynnal archwiliad manwl i’w cynorthwyo i wireddu eu hamcanion masnachol.

Rwyf wedi gweithio gyda dros 200 o fusnesau unigol o fewn Swydd Stafford dros y 5 mlynedd diwethaf ar draws amrediad o ddisgyblaethau masnachol, gan fod mewn rôl Ymarferydd Cyffredinol gan fwyaf, ond fel arbenigwr mewn sefyllfaoedd eraill.

Gair i Gall

Sicrhewch eich bod yn cadw ar ben y llif arian

John Thompson
Thompson
  • Enw
    John Thompson
  • Enw'r busnes
    JFT Associates
  • Rôl
    Owner
  • Lleoliad
    Staffordshire