Julie Williams

Rwy’n Gyfrifydd a bu i mi weithio yn y diwydiant am bron i 30 mlynedd cyn i mi symud i’r diwydiant bancio am ddwy flynedd fel Rheolwr Perthynas. Dechreuais arni fel gweithiwr iau mewn adran gyfrifeg brysur lle’r oeddwn yn ddigon ffodus i gael astudio ochr yn ochr â’m gyrfa ac enillais gymwysterau Safon Uwch, AAT a ACCA mewn cyfrifeg wrth weithio. Mae fy swydd wedi bod yn weddol amrywiol. Yn bennaf mae fy swyddi wedi bod o natur Datrys Problemau lle’r oeddwn yn mynd i wahanol gwmnïau i ddatrys nifer o wahanol fathau o broblemau, o lif arian i staffio neu dwf. Credaf mai fy mhrif lwyddiant yw bod yn rhan o sefydliad a oedd mewn safle o ecwiti negyddol enfawr, ond drwy barhau i fod dan reolaeth ac yn ddisgybledig a gosod prosesau yn y busnes, bu i mi lwyddo i drawsnewid y busnes yn gwmni ecwitïol enfawr drwy gynnwys pawb yn y sefydliad ac annog gweithio mewn tîm. Credaf fod gennyf sgiliau arwain teg gan nad wyf yn ofni sefyllfaoedd heriol ond byddaf yn eu rheoli gyda doethineb a diplomyddiaeth gref.
Mae fy swyddi i gyd wedi cynnwys dyletswydd o ymdrin â chwsmeriaid ac felly rwy’n hyderus mewn sefyllfaoedd trafod a helpu i rwydweithio busnesau. Credaf mai fy mhrif briodoledd yw fy ngallu i gyfrannu. Rwyf wrth fy modd yn helpu ac edrychaf ar unrhyw sefyllfa heriol gyda gobaith a ffeithiau.
Trwy gydol fy nghyflogaeth, rwyf hefyd ymgymryd â swydd addysgu AAT mewn coleg am gyfnod byr i gynorthwyo’r staff. Yn y tair blynedd ar ddeg diwethaf, rwyf wedi bod yn rhedeg fy musnes llyfrau plant fy hun sydd wedi agor drysau at gyfleoedd enfawr a rhoi profiadau amrywiol eang i mi o ymdrin â gwahanol fathau o ysgolion ac unigolion. Mae’r busnes hwn yn agos iawn at fy nghalon gan ei fod yn swydd helpu arall, lle’r wyf yn ceisio rhoi cymaint o lyfrau ag sy’n bosibl yn nwylo plant.
Yn ogystal, byddaf yn ymweld ag ysgolion ac yn trafod pynciau penodol. Fel rhan o’r busnes hwn, rwyf hefyd yn mentora unigolion eraill i ddychwelyd i’r gwaith a rhannu’r cyfle i werthu llyfrau a recriwtio eraill. Mae gennyf dîm o 1400+ o bobl, a chefais y pleser o fentora a datblygu rhai ohonynt fy hun.
Rwy’n fodlon anfon copi o’m CV am ragor o wybodaeth.
 

Gair i Gall

Fy awgrymiad ardderchog gorau mewn busnes fyddai peidio byth â bodloni! Gall busnes a gweithrediadau newid yn sydyn, ac felly fel perchennog busnes, yn aml iawn mae’r perchnogion yn wych o ran gweithrediadau ond gallant fethu yn sgil ffactor o’u cwmpas. Mae’n hanfodol bod perchnogion busnes yn ymwybodol o’r farchnad, cystadleuaeth a newidiadau diwylliannol er mwyn i’w cynnyrch/gwasanaethau barhau yn llwyddiannus.

Julie Williams
Julie
  • Enw
    Julie Williams
  • Enw'r busnes
    The Business Oracle Limited
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    De Cymru, UK