Karen Cherrett

Mae Karen yn cyfuno mwy na 20 mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaeth gweithredol wedi’i reoli ar gyfer y sector cyhoeddus, gyda phrofiad o safbwynt cwsmeriaid a darpariaeth i wella gwasanaethau wrth leihau costau. Mae hyn yn ychwanegol at 9 mlynedd yn gweithio fel swyddog heddlu gweithredol, lle bu iddi ddysgu’r hanfodion megis blaenoriaethu, adnoddau a rheoli risg.

Mae hi wedi arwain datblygiad a darpariaeth partneriaethau strategol aml-wasanaeth (gwerth £250-400 miliwn), rhannu gwasanaethau a rhaglenni newid mewnol gan arbed degau o filiynau, ar ôl sefydlu ei busnes cyntaf mewn swyddfeydd wedi’u gwasanaethu ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae ei henw da mewn ymgynghori wedi ei seilio ar waith arwain rhaglen heriol, bragmatig a diddorol, bod â hanes cryf mewn darparu canlyniadau a newid sefydliadol llwyddiannus. Mae hi bellach yn defnyddio’r holl wybodaeth yn ei maes busnes ei hun.

Mae hi’n defnyddio ei sgiliau proffesiynol fel arweinydd cyrchu a chaffael a hyfforddi academaidd mewn cyfraith i gyfathrebu’n glir a strwythuro ffeithiau ar gyfer gwneud penderfyniadau  - gan ddefnyddio sgiliau trafod i wneud cytundebau a hwyluso cysylltiadau busnes. Mae hi’n berchennog cyfarwyddwr ei busnes ei hun, ac yn gyd-sylfaenydd menter busnes newydd yng Nghymru. Mae Karen yn ymgysylltu’n rhwydd gyda heriau strategol a gweithredol, ac yn dangos mewnwelediad a datrysiadau ymarferol i heriau busnes heddiw.

Sgiliau:  - Gweledigaeth a Strategaeth Busnes - Strategaeth Twf - Dylunio Busnes a Sefydliadol - Rhaglenni a Phrosiect - Rheoli Newid - Dylunio Gwasanaeth a Chynnyrch - Parodrwydd i Fuddsoddi - Cynllunio Busnes - Cyrchu a chaffael - Canologrwydd Cwsmer - Datblygu Cynigion - Galluogi Technolegau.

Karen
  • Enw
    Karen Cherrett
  • Rôl
    Mentor
  • Lleoliad
    Caerdydd