Katy Carlisle

Rwyf wedi bod yn gweithio fel gweithiwr llawrydd ers 2013 ac yn rhedeg fy musnes fy hun fel hyfforddwr a dylunydd gwe Squarespace dan y brand SQSP Queen (The Wheel Exists yn flaenorol). Cyn hyn, treuliais chwe blynedd yn gweithio ar gyfer sefydliadau cynaliadwyedd, nid-er-elw, gan symud yn raddol tuag at rôl sy’n canolbwyntio’n fwy ar dechnoleg, cyn penderfynu sefydlu fy musnes fy hun.

Fel cyn-athrawes, rwy’n mwynhau cyflwyno hyfforddiant a helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio technoleg; Rwy’n gyflwynydd hyderus ac rwyf wedi siarad neu wedi bod yn aelod o banel mewn sawl digwyddiad. Rwyf hefyd wedi gweithio â sawl Prifysgol i drafod fy mhrofiad o weithio’n llawrydd.

Yn ogystal â’m gwaith ar Squarespace, rwy’n rhedeg busnes meddalwedd drwy danysgrifiad gyda fy mhartner o’r enw Community Box; Rwy’n ymwneud â’r gwaith dylunio, marchnata, strategaeth a datblygu busnes. Rwyf hefyd yn ymwneud ag ambell i brosiect ar yr ochr, gan gynnwys cymuned ar gyfer gweithwyr llawrydd, cylchgrawn ar-lein a phodlediad sy’n mynd i’r afael â heriau gweithio’n llawrydd.

Profiadau gwirfoddoli:

•    Rheolwr ymgyrch, Cyfeillion y Ddaear Manceinion (2008-12)
•    Mentor busnes,  Manchester Business Growth Hub (2014-17)
•    Gwirfoddolwr cyffredinol, Third Sector Café (sefydliad sy’n cefnogi sefydliadau nid er elw yn Sheffield, 2015-17)
•    Arweinydd Rhwydwaith Lleol,  Women in Rural Enterprise (2017-18)

Sgiliau a chryfderau:

•    Datrys problemau mewn modd creadigol
•    Adnabod patrymau
•    Creu systemau a phrosesau
•    Rheoli amser
•    Y gallu i egluro cysyniadau cymhleth/technegol mewn ffordd sy’n hawdd ei ddeall
•    Sylw i fanylder
 

Gair i Gall

Peidiwch â cheisio bod yn bopeth i bawb; ceisiwch ganolbwyntio ar sut rydych chi’n dymuno mynd i’r afael â busnes, a dewch o hyd i bobl sy’n cysylltu â’r dull hwnnw.  

Katy Carlisle
Car
  • Enw
    Katy Carlisle
  • Enw'r busnes
    SQSP Queen
  • Rôl
    Perchennog
  • Lleoliad
    Sir Fon