Keith Norris

Ar ôl 20 mlynedd o brofiad rheoli busnes/rheoli pobl, o ddatblygu cynnyrch, i weithgynhyrchu i fanwerthu, yn y 90au dechreuais arni yn y Diwydiant Adnewyddadwy fel yr oedd Ynni Gwynt yn dechrau dod yn opsiwn gwirioneddol ac yn ddewis mwy cynaliadwy na thanwydd ffosil.
Dysgais i addasu a datblygu gyda heriau cynyddol o ansicrwydd gwleidyddol, datblygiadau prosiectau cymhleth, cynnydd technolegol a gorchmynion masnachol, wrth weithio’n barhaus i reoliadau a oedd yn gofyn mwy a mwy a thollau ac ymarferion amrywiol gwahanol farchnadoedd daearyddol.
Cefais amrywiaeth o swyddi gan gynnwys gweinyddu busnes, rheoli prosiectau, adeiladu a gweithredu a chynnal. Yn 2001, bu i mi symud i fyw a gweithio am 5 mlynedd yn UDA, gan ddechrau gyda busnes newydd i adeiladu a gweithredu prosiect tirnod gwirioneddol (Fferm Tyrbinau Gwynt King Mountain – 214 o dyrbinau, 278MW) yn Texas, a oedd ar y pryd y prosiect ynni gwynt mwyaf yn y byd, y cwbl wedi’i gwblhau ac yn weithredol mewn 9 mis, a hynny cyn y dyddiad terfynu ac yn sylweddol is na’r gyllideb.
Rhwng popeth, roeddwn yn rhan uniongyrchol o dros 1.3GW o gynhyrchiad wedi’i fewnosod a rhywbeth yn nesáu at 2GW pellach o brosiectau mewn datblygiad ledled y byd, gyda gwerth y prosiectau yn amrywio o £10 i £300 miliwn.
Yn olaf, 9 mlynedd cyn ymddeol, gweithiais yn y maes caffael yn y DU, ac yna’n gyfrifol am Gydbwysedd Offer ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.
Dros y blynyddoedd rwyf wedi gweithio gyda grwpiau, mawr a bach, o Uwch Reolwyr i lawr, wastad yn gweithio tuag at nod o gynnal enw da wrth ddatblygu timau gweithio effeithlon a phroffesiynol i ddarparu’r gwerth gorau am yr amser a’r arian a fuddsoddwyd. Roedd mentora yn rhan annatod o’r daith honno.
 

Gair i Gall

Dewch o hyd i’r hyn sy’n agos at eich calon a dysgwch sut mae cyfathrebu eich cynnig busnes orau i eraill. Peidiwch byth â rhoi’r gorau i ddatblygu eich sgiliau a darllenwch, darllenwch, darllenwch i ymchwilio ac ychwanegu at eich profiadau. Peidiwch â phoeni am beth mae pobl eraill yn ei feddwl ond chwiliwch am fentoriaid cadarnhaol i roi eich syniadau dan brawf a helpu i ddatrys croesdynnu neu unrhyw ddryswch. Gall mentora da arbed amser gwerthfawr ac ymdrech a gollwyd. Peidiwch â bod yn ofn cymryd risgiau neu fethu. Daw methiant i ran pawb ar ryw adeg mewn unrhyw ddatblygiad busnes, mae’r ffordd yr ydych yn mynd i’r afael ag o ac yn dysgu o’r profiad yn fesuriad o’ch cryfder a’ch natur. Lle bynnag bo hynny’n bosibl, gadewch rywfaint o arian wrth gefn er diogelwch wrth greu mantais gystadleuol neu gymryd y cam nesaf ymlaen. Byddwch yn arweinydd ond peidiwch â throi eich cefn ar fod yn rhan o dîm.

Keith Norris
Keith
  • Enw
    Keith Norris
  • Enw'r busnes
    Semi-retired
  • Lleoliad
    Powys