Keith Parry

Cefais fy ngeni a’m magu yn Nhraeth Coch, Ynys Môn, ac fe wnes i gwblhau fy addysg uwchradd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.
 Gadewais yr ysgol ym 1978 i ddilyn gyrfa ac i astudio ymhellach yn y sector bancio, gan ymuno â Barclays yng nghangen Llanrwst ym mis Mai 1978.
O fewn fy 5 mlynedd gyntaf gyda Barclays, roeddwn i wedi ennill profiad ar draws pob adran o’r gangen, wedi cwblhau fy arholiadau bancio ac wedi llwyddo i ddod yn Aelod Cysylltiol o Sefydliad y Bancwyr (y Gwasanaethau Ariannol erbyn heddiw).
Rhwng 1985 a 1995, bûm yn gweithio’n helaeth ym maes rheoli perthnasau corfforaethol a rheoli risg ar lefel uwch yn yr Amwythig a Birmingham cyn ymuno â thîm Bancio Corfforaethol Canolbarth Lloegr yng nghanol Birmingham, lle bûm yn gweithio mewn nifer o swyddi Cyfarwyddwr Perthnasau ar lefel uwch nes i mi ymddeol yn 2022 ar ôl gyrfa o 44 mlynedd gyda Barclays.
Dros y 25 diwethaf gyda’r banc, roeddwn yn ymwneud helaeth gyda’r canlynol:
 - rheoli’r berthynas fancio ar gyfer portffolio o gleientiaid corfforaethol domestig ac amlwladol gyda throsiant blynyddol o hyd at £3bn. Roedd hyn yn cwmpasu cleientiaid ar draws sawl sector gan gynnwys gweithgynhyrchu, eiddo tirol/adeiladu tai, manwerthu/cyfanwerthu, gwasanaethau ariannol, ynghyd â ffocws penodol ar y diwydiant manwerthu cerbydau.
 - cefnogi a chynghori cleientiaid ar bob agwedd ar reoli cyfalaf gweithio/arian parod, masnach ryngwladol, cyllid corfforaethol, cyfuniadau a chaffaeliadau a gofynion bancio buddsoddi sylfaenol.
 - rheoli, cymell a datblygu fy nhîm cymorth a rheoli perthnasau gydag ystod o dimau mewnol, rhanddeiliaid allanol a phartneriaid proffesiynol.
 
Yn dilyn fy ymddeoliad o Barclays yn 2022, fe wnaeth fy ngwraig, Nicola, a minnau werthu’r cartref teuluol yng Nghanolbarth Lloegr a dychwelyd i fyw i Ynys Môn. Rydym yn ymgymryd â phrosiect i adnewyddu ein heiddo yn ardal Benllech ar hyn o bryd.

Gair i Gall

Manteisiwch yn llawn ar yr holl gymorth, cefnogaeth ac arweiniad sydd ar gael gan bob rhanddeiliad (mewnol ac allanol) a byddwch yn barod i ddysgu rhywbeth newydd bob dydd.

Keith Parry
Parry
  • Enw
    Keith Parry
  • Rôl
    Cyfarwyddwr bancio corfforaethol wedi ymddeol
  • Lleoliad
    Sir Fon