Kevin Field

Rwyf wedi cael gyrfa amrywiol yn amrywio o reoli siopau arwerthu i’r diwydiant olew a nwy gyda swyddi fel Rheolwr TG, Rheolwr Banc, Uwch Reolwr Prosiect a Rheolwr Cyffredinol. Rwyf hefyd wedi bod yn heddwas gyda Heddlu Gogledd Cymru. Bellach, mae gennyf set sgiliau amrywiol a threiddgar. Rwyf wrth fy modd yn mynd i’r afael â phroblemau cymhleth, eu datod oddi wrth ei gilydd ac yna cynhyrchu datrysiadau ac mae gennyf brofiad sylweddol o reoli newid a gweithredu newidiadau mewn amgylchedd gwaith dynamig. Mae dadansoddi busnes hefyd yn faes y mae gennyf ddiddordeb ynddo, yn benodol deall sut mae proses yn gweithio ac yn rhyngweithio â phrosesau eraill, yna dylunio’r datrysiad gorau posibl. Rwyf wedi ennill profiad sylweddol mewn cynllunio parhad busnes ac rwyf wedi dylunio a gweithredu nifer o gynlluniau parhad busnes ac adfer ar ôl trychineb llwyddianus. Mae cynllunio ar gyfer bygythiadau strategol a’u dadansoddi hefyd yn faes y mae gennyf brofiad sylweddol ynddo. Fel gwirfoddolwr yn hyfforddi oedolion ar gyfer lluoedd y cadetiaid lleol, roeddwn yn uwch swyddog yn gyfrifol am hyfforddi a datblygu 36 o ddidoliadau ar draws ardal gorllewin Cymru. Bûm yn gwasanaethu gyda’r lluoedd am 23 o flynyddoedd.
Rwyf wrth fy modd yn dysgu pethau newydd ac yn ffynnu o gael her. Rwy’n Rheolwr Siartredig o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sydd â Diploma Lefel 5 CMI mewn Arwain a Rheoli, Cymhwyster Lefel 7 y Sefydliad Arwain a Rheoli (ILM) mewn Hyfforddi a Mentora Gweithredol a Chymhwyster Lefel 6 City and Guilds mewn Arwain a Rheoli. Mae gennyf hefyd gymwysterau mewn TG, megis GDPR, cynllunio parhad busnes a rhoi hynny ar waith a statws Ymarferydd PRINCE 2.
Byddwn yn dweud fy mod yn dipyn o ffanatig pan mae hi’n dod i’r maes arwain, wedi darllen 200+ o lyfrau yn ogystal ag astudio popeth o athroniaeth i seicoleg. Rwy’n credu mewn arddull sy’n rhoi’r person yn gyntaf ac yn canolbwyntio ar y bobl ac yn ymdrechu i helpu fy holl gydweithwyr i gyflawni popeth y gallant fod.
Rwyf wedi cael budd mawr o’r mentora gwych rwyf wedi ei gael drwy raglen Busnes Cymru ac rwy’n fwy na hapus i helpu eraill mewn unrhyw ffordd y gallaf!
 

Gair i Gall

Peidiwch byth â bod ofn cyfaddef nad oes gennych yr ateb. Peidiwch byth â bod ofn gofyn am help.

Kevin Field
Field
  • Enw
    Kevin Field
  • Enw'r busnes
    PetroStrat Ltd
  • Rôl
    Rheolwr Cyffredinol
  • Lleoliad
    UK