Lisa Stopher

Siaradwr Cymraeg

Gweithiwr Proffesiynol Egnïol, Brwdfrydig a Dynamig gyda sgiliau datblygu strategol a gweithredol rhagorol. Lisa Stopher yw Cyfarwyddwr Busnes West Wales Holiday Cottages Ltd.

Ar ôl ennill gradd BA (Anrh) mewn Hyrwyddo Ffasiwn a Marchnata, treuliodd Lisa y rhan fwyaf o’i gyrfa yn Calvin Klein Underwear and Jeans, a’i swydd olaf yno oedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol Ewrop. Mae gan Lisa gefndir health mewn Prynu a Marchnata a Gweithdrefnau Masnachol. Mae hi wedi gweithio i frandiau megis Reebok a Timberland, yn ogystal â siopau’r stryd fawr.

Yn wreiddiol o Dde Ceredigion, ac wedi treulio dros 23 mlynedd yn Llundain (hefyd yn gweithio i frandiau megis Reebok, Etam a Timberland), penderfynodd Lisa symud adref i Gymru yn 2018 oherwydd rhesymau teuluol.

Mae cefndir gweithredol Lisa yn golygu bod symud i mewn i’r sector Twristiaeth yng Ngorllewin Cymru wedi bod yn rhwydd, ac mae ei hangerdd am yr ardal lle magwyd hi wedi helpu i drosglwyddo ei sgiliau. Ar hyn o bryd mae hi’n rheoli busnes West Wales Holiday Cottages dros y we, ac mae tîm o 9 o bobl wedi caniatáu i Lisa ddefnyddio ei sgiliau rheoli ac ysgogi.
 
 

Gair i Gall

Brwydrwch dros yr hyn rydych yn credu ynddo, byddwch yn angerddol am eich cynnyrch (beth bynnag yw hynny) a pheidiwch â chymryd ddim byd i’ch calon.

Rhowch eich hun yng nghanol pobl gyda’r un angerdd ac uchelgais.

 

Lisa Stopher
Lisa
  • Enw
    Lisa Stopher
  • Enw'r busnes
    West Wales Holiday Cottages
  • Rôl
    Cyfarwyddwr Busnes
  • Lleoliad
    Ceredigion