Liz Tucker
Roedd ei busnes cyntaf, a sefydlwyd tua diwedd y 1980au yn y diwydiant adeiladu, yn gosod seddi, mannau chwarae a graffeg addurnol mewn siopau, tafarnau a bwytai. Yn y 1990au, fe aeth i’r brifysgol gyda diddordeb mewn gwyddoniaeth ac iechyd a drodd yn yrfa mewn cynghori ac yna maetheg. Fe benderfynodd ganolbwyntio ar y diwydiant bwyd, oherwydd y sgiliau oedd ganddi yn sgil ei chefndir busnes. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel cynghorydd yn y diwydiant bwyd ac iechyd, yn asesu gwerth maethol bwydydd er mwyn eu gwella neu ddatblygu cynhyrchion iachach, mwy ecolegol-gyfeillgar ar gyfer y defnyddiwr. Mae wedi cofrestru fel Maethegydd gyda’r AfN, yn gweithio fel cynghorydd yn y diwydiant bwyd ac iechyd, yn asesu gwerthoedd maethol a chydymffurfiaeth â rheoliadau er mwyn eu gwella neu ddatblygu cynhyrchion iachach, mwy ecolegol-gyfeillgar. Mae’n darlithio ac yn cynghori ar labelu, a rheoliadau honiadau am faethiad ac iechyd, ac yn gweithio fel ymgynghorydd ar gyfer sefydliadau a chymdeithasau cysylltiedig. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio yn y cyfryngau, yn ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau cenedlaethol ac yn cyflwyno ar y radio a’r teledu. Mae’n awdur, a bydd yn rhoi sgyrsiau mewn sioeau bwyd a chynadleddau iechyd yn rheolaidd. A hithau’n byw ar fferm fach ar ochr Cymru i’r ffin, mae hefyd yn siarad ac ymgyrchu, ar sail profiad, ar faterion yn ymwneud â ffermio cynaliadwy a chynhyrchu bwyd. Felly, mae ganddi brofiad yn yr agweddau craidd ar sefydlu a rhedeg busnes, yn ogystal â dealltwriaeth benodol o’r ffordd y mae’r diwydiant bwyd yn gweithio o’r fferm i’r broses gynhyrchu, y diwydiant manwerthu, y diwydiant arlwyo, hyrwyddo ac yna’r defnyddiwr.
Maethegydd Cofrestredig (AfN), MSc, BSc Anrhydedd, Aelod o’r Gymdeithas Faetheg (a chynrychiolydd Cymru), Uwch-aelod Cyswllt o’r Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol, aelod o Nutritionists In Industry a SENSE.
-
EnwLiz Tucker
-
RôlMaethegydd cofrestredig ar gyfer y diwydiant bwyd
-
LleoliadSwydd Henffordd