Luke LeSauteur

Fy enw i yw Luke LeSauteur ac rwy’n uwch arweinydd marchnata a gwerthiant creadigol ac ymarferol, gyda dros 18 mlynedd o brofiad yn gweithio â BBaChau, y Sector Cyhoeddus a Chorfforaethau mawr. 

Mae gen i brofiad amlwg o sefydlu ffrydiau refeniw newydd a chyfredol sy’n ehangu, drwy greu a gweithredu strategaethau marchnata a gwerthu i yrru twf cyffredinol. Rwy’n hynod frwd dros ddysgu a datblygu unigolion - Yn medru deall strwythurau a gweithdrefnau sefydliadau’n fanwl ac rwy’n ffynnu ar heriau newydd.

Fy ngalluoedd allweddol: *Rheoli Cyfrifon *Adeiladu Ymddiriedaeth *Datblygu Busnes *Rheoli Brand *Meddwl yn Feirniadol ac yn Greadigol *Sgiliau Rhyngbersonol a Rheoli Pobl *Dylanwadu *Strategaeth Farchnata *Rhwydweithio *Negodi *Rheoli Prosiect *Ysgrifennu Cynigion a Chyflwyniadau *Strategaethau Ail-weithredu a Chadw *Marchnata ar Gyfryngau Cymdeithasol *Y Broses Werthu *Cynllunio Strategol.

Cyrsiau wedi'u cwblhau: 

1.    Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau - Sefydliad Technoleg Rochester (2019)
2.    Cyfathrebu’n Effeithiol – Julian Treasure – Siaradwr TED 4-gwaith (2017)
3.    Y Trafodwr Medrus Cyflawn – The Gap Partnership – cwrs preswyl 3.5 diwrnod (2017)
4.    Trafodwr Hanfodol – Hemsley Fraser (2016)
5.    Gwerthiant a Gwasanaeth - Gazing Performance Systems (2014)
6.    Cyflwyno Proffesiynol – Love to Present (2014)

Os ydych chi’n teimlo y gallaf eich helpu chi ag elfennau marchnata a gwerthu eich busnes, mae croeso i chi gysylltu â mi.

 

 

 

Gair i Gall

Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth.

Luke LeSauteur
Luke
  • Enw
    Luke LeSauteur
  • Enw'r busnes
    Employed by ReddeNorthgate Group
  • Rôl
    Pennaeth Gerthu
  • Lleoliad
    Bro Morgannwg