Manjit Biant

Mae Manjit yn gyfrifydd cymwys sy’n meddu ar gyfoeth o brofiad o’r diwydiant, yn ogystal â phrofiad ymarferol. Ar hyn o bryd, mae’n darlithio mewn busnes a chyllid ar gyfer Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Dechreuodd ei yrfa fel archwilydd, yna symudodd ymlaen i weithio mewn diwydiant. Mae wedi gweithio mewn nifer o sectorau, gan gynnwys Bancio a Chyllid, Cludiant, a’r diwydiant gwasanaethu.

Bu’n rhedeg busnes llwyddiannus am nifer o flynyddoedd ac, ar ôl gwerthu hwnnw, newidiodd yrfa i fod yn hyfforddwr ac ymgynghorydd rhyngwladol. Mae’n gwerthfawrogi rôl mentora ac mae’n mentora yn y sgiliau allweddol entrepreneuriaeth, syniadau busnes, rheolaeth ariannol a meddwl strategol. Ac yntau’n rhwydweithiwr gwych, gall hefyd gynnig cymorth o ran gwneud cysylltiadau defnyddiol a rhoi pobl mewn cysylltiad ag arweinwyr blaenllaw yn y maes..

Gair i Gall

Nid mewn undydd y codwyd Rhufain- ond pan godwyd hi, fe goncrodd y byd - Peidiwch fyth â rhoi’r ffidil yn y to!!

Manjit Biant
  • Enw
    Manjit Biant
  • Rôl
    Darlithydd Busnes a Chyfrifeg
  • Lleoliad
    Caerfyrddin / Abertawe