Mark Evans (MCIPD)
Gadewais Gyngor Sir Powys yn Chwefror 2019 ar ôl 27 mlynedd o wasanaeth. Fy swydd olaf gyda’r Cyngor oedd Cyfarwyddwr Adnoddau a chyn hynny roeddwn yn Bennaeth Gwasanaethau Busnes ers Ebrill 2013. Mae fy nghefndir proffesiynol mewn Adnoddau Dynol a Chyflogres a chyn gweithio i’r Cyngor treuliais 7 mlynedd yn y sector breifat yn gweithio i Laura Ashley.
Yn ystod fy ngyrfa yn y Cyngor rwyf wedi bod yn gyfrifol am Adnoddau Dynol (AD), Datblygu Sefydliadol (DS), TG, Caffael, Incwm a Gwobrwyo, Cymorth Busnes, Gwasanaeth Cwsmer, Cyfreithiol, Cyflogres a’r Gronfa Bensiwn.
Roeddwn hefyd yn arwain trawsnewid o fewn y Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â gwella prosesau, ail-ddylunio gwasanaeth masnachadwyedd, gan gefnogi nifer o brosiectau trawsnewid allweddol, gan gynnwys caffael a gweithredu datrysiad integredig AD/Cyflogres gyntaf y Cyngor, gweithredu system di-arian parod ar gyfer ysgolion ac ail-ddylunio’r gwasanaeth Incwm a Gwobrwyo.
Yn ddiweddar rwyf wedi sefydlu fy musnes fy hun ‘Fullbrook Solutions Ltd’ y darparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys, Hyfforddi a Mentora, Gwella Prosesau Busnes, Cysylltiadau Cwsmeriaid Strategol a Hyfforddiant.
Mae gen i frwdfrydedd i wneud gwahaniaeth ac i ddarparu canlyniadau effeithiol a pherfformio i safon uchel, a gefais yn sgil profiad uwch weithredol mewn swyddi Rheolaethol, Pennaeth Gwasanaeth a Chyfarwyddwr, mewn amrywiaeth o wasanaethau corfforedig dargyfeiriol, yn cymysgu darpariaeth ac effeithiolrwydd gweithredol gyda newid sylweddol a chymhleth.
Yn Awst 2011 deuthum yn Aelod Siartredig o CIPD. Rydw i’n hynod falch o fod yn Fentor i Busnes Cymru.
-
EnwMark Evans (MCIPD)
-
Enw'r busnesFullbrook Solutions Ltd
-
RôlRheolwr Gyfarwyddwr
-
LleoliadPowys