Mike Morgan
Mae Mike wedi treulio ei holl fywyd gwaith yn gweithio yn y sector lletygarwch. Ar ôl cael ei addysg yn King’s School Caerwrangon a Phrifysgol De Montford, gofynnwyd iddo ymuno â’r cynllun hyfforddiant cyflym i raddedigion gyda Holiday Inns Europe, a arweiniodd yn y pendraw at ei swydd gyntaf fel Rheolwr Cyffredinol yn 23 mlwydd oed. Dilynwyd hyn gan waith o fewn Crowne Plaza, Quality Hotels, Trust House Forte a’r Hilton.
Roedd ei yrfa yn cynnwys rheoli gwestai mawr yn Ewrop a’r DU hyd at 1996 pan ddychwelodd i Gymru. Caffaelodd Westy Llansantffraed Court, ger y Fenni a’i droi i fod yn blasty llwyddiannus pedair seren gyda bwyty o fri sydd wedi ennill dwy wobr rosette yr AA, ac yn cyflogi 35 o bobl leol. Enillodd y gwesty nifer o wobrau ac anrhydeddau yn ystod y 23 mlynedd dilynol ac fe’i gwerthwyd ym mis Rhagfyr 2019 er mwyn i Mike ganolbwyntio ar ymrwymiadau busnes eraill.
Mae wedi gweithio fel Cadeirydd Adventa, grŵp LEADER Sir Fynwy yn gweithio ym meysydd allweddol Bwyd, Twristiaeth a Choed, bu'n Gyfarwyddwr Bwrdd Gŵyl Fwyd y Fenni, a threuliodd 8 mlynedd fel Llywodraethwr a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio Coleg Gwent, coleg trydyddol mwyaf Cymru gyda throsiant o £50m. Mae’n Athro Gwadd ym Mhrifysgol Cymru, bu’n aelod ar y Bwrdd Cynghori Gweinidogol ar Dwristiaeth ac mae’n un o'r chwe arweinydd yn y diwydiant twristiaeth a ddatblygodd y ddogfen strategaeth gyhoeddedig ar gyfer Twristiaeth yng Nghymru o’r enw Partneriaethau ar gyfer Twf.
Daeth Mike a’i bartner busnes yn gyfrifol am weithrediadau’r Welsh Rarebits Collection, prif gonsortiwm y wlad o ran marchnata lletygarwch, yn 2009, gyda Mike yn cyflawni ei berchnogaeth o’r holl gyfranddaliadau yn y busnes yn 2019. Mae Welsh Rarebits nawr yn cynrychioli tua 300 o'r busnesau lletygarwch a thwristiaeth gorau yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae Mike yn brif Gyfarwyddwr Bwrdd y datblygiad gwerth £100m o Ganolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yn y Celtic Manor Resort, ac ar gyfer Historic Hotels of Europe.
Mae gan Mike gefndir profedig mewn digwyddiadau llefaru, cyfryngau darlledu, ac ar hyn o bryd mae’n cyflawni prosiectau fel mentor busnes, ymgynghorwr, cynghorydd, a hwylusydd ar gyfer mentrau sy’n wynebu cwsmeriaid.
-
EnwMike Morgan
-
Enw'r busnesCasgliad rarebit Cymru
-
RôlPerchennog a Chadeirydd
-
LleoliadSir Benfro