Neil Franklin

Ganwyd Neil Franklin yn y Deyrnas Unedig ac mae’n entrepreneur sydd wedi ennill gwobrau.

Dechreuodd Neil ei fusnes cyntaf pan oedd yn 19, yn gwerthu gwelliannau cartref o ddrws i ddrws a gweithiodd ei ffordd i fyny i werthu i Ystafelloedd Bwrdd rhai o gwmnïau technoleg mwyaf blaenllaw'r byd.

Yn 1994, sefydlodd Neil Dataworkforce, sefydliad staffio wedi ei leoli yn y DU. Tyfodd y cwmni’n gyflym a chyrraedd trosiant o $65 miliwn mewn chwe blynedd, gyda swyddfeydd yn Llundain, Dallas, y Swistir, Malaysia, Singapore a Mexico City.

Mae Neil wedi cyd-sefydlu a buddsoddi mewn amrywiaeth eang o gwmnïau mewn sectorau megis technoleg, meddalwedd, bwytai/lletygarwch a’r Rhyngrwyd/Marchnata ar y Rhyngrwyd.

Oherwydd ei ddawn entrepreneuraidd death Neil i sylw beirniaid Indy Deloitte & Touche yn The Independent on Sunday; roedd ar restr fer gwobrau mawreddog Entrepreneur Awards Ernst & Young; a chafodd ei osod yn seithfed ar y Enterprise 100 Enterprise List.

Daeth Dataworkforce i’r brig yn y “Virgin Atlantic Fast Track 100 fastest growing UK business” y Sunday Times yn 2000 a 2001. Hyd heddiw, Dataworkforce yw’r unig gwmni yn hanes y gystadleuaeth i gyflawni’r “dwbl” hwn.

Cafodd Neil hefyd ei gynnwys yn ‘Who’s Who In Recruiting’, 2002 a ‘Who’s Who In British Business Excellence’ yn 2003.

Mae Neil wedi bod yn brif siaradwr mewn nifer o ddigwyddiadau Diwydiant ac Entrepreneuriaeth ac mae’r cyfryngau wedi galw ar ei arbenigedd ym maes diwydiant a busnes yn cynnwys:

BBC, Bloomberg Sky TV, ITV, The Money Channel, BBC Radio 4, Independent Radio, KRLD (Dallas), The Financial Times, The Sunday Times, Time Magazine, Forbes, The Independent, The Daily Mail, The Daily Express, The Daily Mirror, The Sun, The Dallas Morning News.

Erbyn hyn mae Neil yn cynnig rhaglen entrepreneur a hyfforddi/mentora busnes a buddsoddi cynhwysfawr er mwyn cynorthwyo pobl ar bob lefel yn y diwydiant, yn cynnwys achub a thrawsnewid busnesau.

Gair i Gall

Mae 80% o lwyddiant mewn busnes yn ymwneud â chael y meddylfryd cywir. 20% yw gweithredu, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn barod i roi dim llai na 100% i mewn i’r gweithredu hwnnw.

Neil Franklin
Neil Franklin
  • Enw
    Neil Franklin
  • Rôl
    Entrepreneur. Investor. Coach
  • Lleoliad
    West Glamorgan