Paul Binning

Rwy’n werthwr masnachol sydd yn canolbwyntio ar y cwsmer, gyda bron i 20 mlynedd o brofiad mewn amrywiaeth o swyddi uwch yn gweithio ar draws gwahanol farchnadoedd. Rwy’n arbenigo mewn cynllunio strategol a marchnata, datblygu busnes a chynnyrch – gan fusnesau i brynwyr a rhwng busnesau. Rwyf hefyd wedi darparu’r ochr farchnata ar gyfer prosiectau masnachol mawr, gan gynnwys rhedeg yr Ymgyrch Gyfathrebu ar gyfer y darn £1 newydd a rheoli rhaglen gyfan Darnau Arian a Medalau Llundain 2012.

Rwy’n meddwl yn strategol, gyda ffocws tymor hir, yn adnabod cyfleoedd, yn deall anghenion cwsmeriaid ac yn datblygu cynnyrch a gwasanaethau i ateb yr anghenion hynny. Rwy'n rhoi sylw i fanylion er mwyn sicrhau cyn lleied o gamgymeriadau â phosib, fod cyllidebau yn cael eu rheoli a bod cyfleoedd yn cael eu cyflwyno. Ond rwyf hefyd yn meddwl o safbwynt prynwr, gan ddeall beth fyddwn i, fel cwsmer, eisiau ei weld gan wefan, ymgyrch marchnata neu wasanaeth.

Ers gadael busnes corfforedig, rwyf wedi dod yn Ymarferydd GDPR achrededig, yn helpu busnesau i baratoi, gan wella effeithlonrwydd prosesau drwy ddefnyddio adnoddau hyfforddi llwyddiannus, cymorth ad-hoc a rheolaeth prosiect.

Yn ystod fy amser yn y Bathdy Brenhinol, derbyniais bedwar dyrchafiad ac ymgymerais â phrosiectau pwysig ar draws y busnes ar Fapio Llif Gwerth, Rheoli Darbodus (awyrgylch swyddfa), Bodlondeb Cwsmer, Cynllunio Taith Cwsmer, cynllunio Cyfathrebu a Datblygiad Cynnyrch. Roeddwn hefyd yn rhan o’r tîm rheoli uwch wrth drawsnewid diwylliant sefydliad 1,000 oed, oedd yn y gwasanaeth sifil hyd at 2010, yn fusnes modern, masnachol, hynod lwyddiannus, gydag egwyddorion ffocws cwsmer, gwella parhaus a datblygu pobl wrth ei wraidd.

Gair i Gall

Cofiwch ofyn i'ch hun bob amser, beth fyddai ein cwsmer yn ei feddwl o’r cam rydych yn ei gymryd, a heriwch eich hun wrth farchnata drwy ofyn ‘Beth yw’r ots?’

Paul Binning
Paul
  • Enw
    Paul Binning
  • Enw'r busnes
    Starrd Solutions Ltd
  • Rôl
    Perchennog / Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Rhondda Cynon Taf