Peter Denton

Rydw i wedi treulio'r 27 mlynedd diwethaf yn datblygu fy arbenigedd technegol a’m sgiliau personol. Mae cleientiaid eisoes yn gweithio gyda mi ar brosiectau archwilio / cyfrifon a threth, yn ogystal â chynlluniau datblygu busnes a mentora.

Yn y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi bod yn cynorthwyo cleientiaid mwy a mwy gyda'u gwaith marchnata a datblygu busnes yn gyffredinol. Rydw i bob amser wedi chwarae rhan weithgar yn fy ngwaith datblygu busnes a marchnata fy hun.

Un agwedd sydd wedi rhoi boddhad arbennig yw hyfforddi pobl ifanc i fod yn dechnegwyr cyfrifyddu cymwysedig a chyfrifyddion cymwysedig. Rydw i wedi helpu i baratoi busnesau i’w gwerthu (o £400,000 i £5 miliwn), yn ogystal â helpu cleientiaid i reoli eu ffordd drwy gyfnodau anodd.

Rydw i wir yn mwynhau nodi amcanion perchnogion busnes. Yna canfod beth sydd o bosibl yn eu dal yn ôl a dyfeisio cynllun i symud ymlaen gan ddefnyddio fy nghefndir technegol i sicrhau bod y cynlluniau yn effeithiol a threth-effeithlon. Mae gen i lawer o brofiad o baratoi cynlluniau busnes llawn ac amcanestyniadau llif arian.

Gair i Gall

"Dylai’ch gwaith fod yn rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau yn ogystal â rhywbeth sy’n talu’r biliau "

Peter Denton
  • Enw
    Peter Denton
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Conwy