Phil Clements

Mae Phil yn gyn swyddog gweithredol y diwydiant dur sy’n bwriadu cefnogi eraill gyda’r profiad a enillodd o’r amrywiaeth eang o swyddi uwch reoli a wnaeth yn Tata Steel a’i ragflaenyddion. Yn ei rôl ddiweddaraf bu’n Gyfarwyddwr Technegol  y DU, yn gyfrifol am ymchwil a datblygiad (gan gynnwys cydweithrediadau ymchwil academaidd â phrifysgolion y DU) a holl weithgareddau technegol ar draws busnesau’r DU. Cyn hynny, bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr ar fusnes is-gwmni yn gyfrifol am weithrediadau a gwerthiant mewn safleoedd yn y DU, Canada a Sweden. Mae ganddo hefyd brofiad gwerthiant a marchnata a enillodd o fod mewn swydd yn arwain tîm gwerthiant rhyngwladol yn ogystal â swydd yn arwain y rhaglen datblygiad cynnyrch newydd yn Tata Steel Europe. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain timau mawr, un ai yn uniongyrchol neu drwy fatrics gweithredol. Bu’n mentora gweithwyr cwmni proffesiynol ieuengach am nifer o flynyddoedd. Tra bod ganddo sgiliau busnes eang iawn mae ei brif arbenigedd mewn datblygu cynnyrch newydd a rheoli cynnyrch (cynyddu gwerth drwy reoli’r portffolio cynnyrch yn weithredol). Mae ganddo Ddoethuriaeth mewn Meteleg ac mae hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio.


 

Gair i Gall

Datblygwch hyder rhyngoch â’ch cwsmer i’r fath raddau fel y dowch yn anghenraid i’w busnes.

Phil Clements
Clem
  • Enw
    Phil Clements
  • Rôl
    Wedi ymddeol
  • Lleoliad
    Caerdydd