Richard Godfrey

Gweithiwr proffesiynol lletygarwch ac eiddo sydd â chysylltiadau da, masnachol a brwdfrydig gyda dros 17 mlynedd o brofiad o entrepreneuriaeth ac arwain busnes mewn amgylchedd aml-frand. Yn benderfynol, uchelgeisiol ac yn canolbwyntio ar adeiladu perthnasoedd hirhoedlog, ac yn angerddol at bobl, helpu eraill i lwyddo trwy hyfforddi ac arwain.

Ar ôl sefydlu A Space in the City yn 2005, a dod â phartneriaeth 14 mis yn yr un sector i ben, tyfais y cwmni o fod yn waith i un dyn i gyflogi 25 unigolyn, gyda throsiant blynyddol o £2.8m.  Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi bod yn FastGrowth50 ddwywaith.  Ychwanegwyd is-adran gosodiadau at y prif fusnes fflatiau â gwasanaeth yn 2013.  Ym mis Awst 2017, fe wnes i ddod â'r rheolaeth dros y portffolio i ben, a chau'r is-adran honno i lawr i ganolbwyntio ar dwf ein cynnig craidd.

Mae gen i hefyd ddiddordeb busnes mewn datblygu eiddo ac mae gennyf bortffolio eiddo yn cynnwys llety masnachol a llety gwyliau ym Mhrydain a thramor.

Fel llawer o berchnogion busnes sydd wedi cychwyn heb fawr ddim, ar lefel BBaChau, mae gen i sylfaen wybodaeth eang sy'n ymwneud â gweithrediadau, gwerthu, marchnata, cyllid, cyflogaeth / AD / rheoli, strategaeth ac ati.  Rwyf wedi llwyddo i dyfu busnes llwyddiannus, ac yn ogystal, rwyf wedi deall pryd i gau busnes, ac addasu un arall pan fo angen.

Credaf y gallaf gynnig buddion fy mhrofiad i eraill a gan fy mod wedi elwa o gyngor arbennig gan eraill dros y blynyddoedd, dyma fy nghyfle i roi rhywbeth yn ôl.

Fel aelod sylfaenol o ENABLE, sef bwrdd mentora a chefnogaeth i entrepreneuriaid mewn amryw o sectorau, a chyn aelod o grwpiau hyfforddiant a chymheiriaid Vistage a BlueRock, mae gennyf ddigonedd o gyngor i’w gynnig a gallaf sicrhau bod menteiaid yn atebol.


Ac ar nodyn hunanol, buaswn yn mwynhau cael y cyfle i fod ynghlwm â mentrau newydd a redir gan entreppreneuriaid brwdfrydig.

 

Gair i Gall

Sicrhewch fod gennych o leiaf ddau hanner diwrnod y mis wedi eu neilltuo i weithio AR y busnes. Yn ddelfrydol dewiswch foreau fel na fydd pethau yn amharu arnoch a sicrhau y cewch lonyddwch i weithio.
Sicrhewch eich bod yn gwneud y mwyaf o’r amser hwn drwy ofyn i chi’ch hunan y diwrnod cynt:
Pa un peth, petawn yn ei wneud yn rheolaidd, a fyddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i fy:
1. Mywyd busnes
2. Bywyd personol
 

Richard Godfrey
Rich
  • Enw
    Richard Godfrey
  • Enw'r busnes
    A Space in the City Ltd
  • Rôl
    Rheolwr gyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Caerdydd