Sally Strong

Ar ôl bron i ddegawd fel uwch ymgynghorydd hyfforddiant a chyfarwyddwr cwmni yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, roeddwn yn dyheu i fod yn hunangyflogedig a pharhau i helpu eraill i dyfu a datblygu yn eu gyrfaoedd. Es i amdani a sefydlu fy musnes fy hun ym mis Mawrth 2011. Dros yr 8 mlynedd ddiwethaf mae wedi bod yn bleser gweithio gyda phobl a gweld eu hyder yn tyfu, eu hunan-ymwybyddiaeth yn cynyddu, eu lefelau sgiliau a gwybodaeth yn datblygu yn ogystal â newid mawr yn eu hagwedd.
Rwy'n caru'r hyn rwy'n ei wneud ac yn cynnig hyfforddiant, mentora, cyfryngu, diwrnodau i ffwrdd o'r gwaith i dimau a gweithdai i unigolion a thimau. Rwy'n angerddol am ddatblygiad personol, yn ymfalchïo mewn bod yn fodel rôl proffesiynol ac mae gennyf y sgiliau i gymell ac ysbrydoli eraill i wneud newid personol!
Ymhlith y meysydd rwy'n arbenigo ynddynt mae Arwain a Rheoli, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Sgiliau Rhyngbersonol, Hunan-ymwybyddiaeth a Thwf Personol. Mae gennyf achrediad MBTI Cam 1 a 2. Rwy'n defnyddio Everything Disc, The 5 Behaviours of Cohesive Teams a Belbin gyda fy nghleientiaid i'w cynorthwyo i ddatblygu.

Mae fy arddull yn gynnes, empathig, diplomyddol a gonest tra'n dawel hyderus a heriol ar yr un pryd. Rwy'n credu y gall fy mhrofiad gwaith, yr adborth rwyf wedi ei gael gan eraill a fy rhinweddau personol fod o fudd i eraill.  Yn olaf, mae gennyf un flaenoriaeth - CHI. Byddaf yn gwrando ar eich anghenion ac yn gweithio'n galed i'ch helpu i dyfu a datblygu. 

Gair i Gall

Credwch ynoch chi'ch hun, cofiwch fod pawb yr ydych yn ei gyfarfod mewn bywyd yn athro, nid oes rhaid i adborth gyfateb i boen (mae'r gwrthwyneb yn wir) a chymerwch sylw bob amser o'r llais hwnnw yn eich pen!

Sally Strong
Sally
  • Enw
    Sally Strong
  • Enw'r busnes
    Strong Training Ltd
  • Rôl
    Learning & Development Professional and Strong Training Ltd
  • Lleoliad
    Sir Fynwy