Shane Hyland

Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes cyllid ers 2005, gan gychwyn mewn canolfan alwadau Woolwich a symud ymlaen i fod yn ymgynghorydd ariannol yn Lloyds a dod yn ymgynghorydd/cynllunydd ariannol hunangyflogedig yn 2009.

Sefydlais fy nghwmni cynllunio ariannol cyntaf yn 2012 a’r ail yn 2018.

Yn ogystal â’r holl gymwysterau perthnasol sy’n angenrheidiol i mi allu gwneud fy swydd, rwy’n teimlo bod fy swydd yn gymysgedd o ddeall ymddygiad a meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf. Oherwydd hyn, rwyf wedi cwblhau nifer o gyrsiau megis deall iaith y corff, dysgu sut i siarad â phobl a’u cael nhw i siarad am eu hemosiynau a’u dymuniadau o ran cynllunio ariannol.

Ni yw’r busnes cynllunio ariannol cyntaf i symud at ffioedd cwbl sefydlog yng Nghymru. Rwy’n credu bod gennyf y gallu i ddangos i bobl, o’m profiad personol, fod posib gwneud pethau yn wahanol i’r ffordd arferol a bod yn llwyddiannus.

Gair i Gall

Peidiwch â chymryd yn ganiataol eich bod yn gwybod y cyfan, dysgwch oddi wrth eraill ac o’ch camgymeriadau.

Shane Hyland
Shane
  • Enw
    Shane Hyland
  • Enw'r busnes
    Sanctuary Financial Planning
  • Rôl
    Cyfarwyddwr / Perchennog
  • Lleoliad
    Caerdydd