Stephen Andrews

Ar ôl treulio ieuenctid afradlon yn dringo ac yn mynydda o amgylch Ewrop a Gogledd America, pan oeddwn yn 30 oed penderfynais fynd i weithio i’r byd gwerthu, gan symud o yswiriant i feddalwedd gyfrifiadurol. Erbyn 1997, roeddwn i’n rheolwr gwerthu yn Anchor Computer Systems Ltd yn Llangefni, gan werthu a gweithredu systemau ar gyfer archfarchnadoedd ceir a delwriaethau ceir.

Yn sgil y flwyddyn 2000 a byg y mileniwm, ailddatblygwyd y systemau hynny o fod yn systemau DOS i fod yn systemau Windows! Yna, cafodd ochr masnachu ceir y busnes ei gwerthu i Glasses Guide, a chefais innau fy ngwerthu hefyd. Doeddwn i ddim yn cyd-fynd â’r farn gul iawn ynglŷn â’m rôl, felly gadewais ac fe es yn ôl i weithio i Anchor, gan werthu a gweithredu Systemau Cyllid ym Mhrydain ac, yn anffodus, yn y Caribî – fel y gallwch ddychmygu, aeth hynny â llawer o f’amser!

Fe wnaeth Glasses roi’r gorau i gynhyrchu un o’r prif gynhyrchion ceir roeddwn i’n masnachu ynddo. Pe bai gennyf raglen, sylweddolais y byddai gennyf fusnes. Felly un diwrnod, eisteddais i lawr i ysgrifennu fy rhaglen gyfrifiadurol gyntaf. Hyd yn hyn, rydw i wedi gwerthu bron i £2,000,000 o’r feddalwedd honno ac mae oddeutu 300 o fusnesau yn gleientiaid imi.

Mae gennyf arbenigedd mewn datblygu meddalwedd, twf busnes, marchnata yn enwedig ‘busnes i fusnes’, busnesau sy’n seiliedig ar danysgrifiad, systemau busnes, cyfrifyddu, integreiddio systemau, gweithio o bell a chanfod doniau dramor.
 
Fel mentor, rydw i eisiau i chi lwyddo ynghynt ac yn rhwyddach na fi!
 

Gair i Gall

Mae’n haws gweithredu systemau yn gynnar yn y broses a byddant yn tyfu gyda’ch busnes. Os gwnewch chi hyn yn hwyrach, bydd pethau’n anos o lawer.

Stephen Andrews
Andrews
  • Enw
    Stephen Andrews
  • Enw'r busnes
    Autosales Systems Ltd
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Gwynedd