Suzi Park

Yn dilyn fy niddordeb mewn Celf yn yr Ysgol, astudiais Gwrs Sylfaen Celf a Dylunio ac fe ddilynais y cwrs hwnnw gyda chwrs gradd BA 4 mlynedd (Anrhydedd) mewn dillad wedi eu gweu ym Mhrifysgol Nottingham Trent. Dechreuodd fy ngyrfa yng nghanolbarth Lloegr yn y diwydiant dillad wedi eu gweu, gan ddechrau dylunio dillad gweu merched ar gyfer Jaeger. Symudais i gwmni dillad wedi eu gweu arall ar ôl tair blynedd. Gadewais fy swydd yng nghanolbarth Lloegr wedi hynny, cyn gweithio i asiant edau a oedd yn gwerthu edau Eidaleg prydferth a chotwm Ffrengig a symudais i Gymru yn 1990.

Wrth redeg fy musnes brodwaith digidol fy hun yng Nghymru, am ddeg o’r blynyddoedd hynny roeddwn yn darlithio yn rhan amser yng Ngholeg Caerfyrddin ar gwrs BA Decstilau Cyfoes. Pan gaeodd fy musnes yn 2006, roeddwn yn gweithio ar dri phrosiect yno, a redais gyda’i gilydd. Roeddwn yn ysgrifennu ac yn cynnal cwrs Sylfaen mewn Technoleg Tecstilau, cyd-reoli prosiect a oedd yn cael ei gyllido gan yr UE/Llywodraeth Cymru i weithio gyda busnesau yng Nghymru a oedd yn y sector ffasiwn a thecstilau. Yn ogystal, roeddwn yn rheoli prosiect peilot, a oedd wedi ei ariannu gan Creative Skillset Cymru i ddylunio a darparu Prentisiaeth mewn Ffasiwn a Thecstilau yn y coleg. Y prosiect olaf i mi weithio arno oedd hwyluso’r dylunio a datblygu sampl gwŷdd jacquard, sydd bellach wedi ei osod yn y coleg.

Un arall o fy nghyfrifoldebau yn y coleg, drwy brosiect Sylfaen Laura Ashley, oedd mentora graddedigion diweddar a oedd yn dymuno dechrau busnes. Roeddwn yn mentora chwe myfyriwr, gan fentora dau fyfyriwr am dair blynedd, ac fe fwynheais y profiad yn fawr. Ar ôl cymryd tâl diswyddo dewisol yn 2015, bu i mi greu Make it in Wales. Rydym yn darparu cyrsiau o’r radd flaenaf yn Sir Benfro, Caerfyrddin a Cheredigion. Rydym yn cydweithio a gwneuthurwyr, dylunwyr, rydym yn datblygu, dylunio a marchnata mewn cyrsiau un dydd i bedwar diwrnod sy’n cynnwys nifer o wahanol elfennau gan gynnwys gwehyddu, clustogwaith, dillad, brodwaith creadigol a gwneud modrwyau arian.

Gair i Gall

Stay focussed, plan and implement!  Introduce systems early, in order to grow easily.  Keep your eye on the finances.  Choose the best people to work with, for you.

Suzi Park
S
  • Enw
    Suzi Park
  • Enw'r busnes
    Make it in Wales Ltd
  • Rôl
    Co-Director / Owner
  • Lleoliad
    Carmarthenshire