Terry Goodwin

Mae gen i dros 25 mlynedd o brofiad o ddatblygu a defnyddio strategaeth farchnata ar gyfer ystod eang o sectorau’r farchnad - o foduron i adeiladu, o ynni i becynnu, o farchnadoedd lleol i farchnadoedd byd-eang. Datblygwyd yr arbenigedd hwn ar lefel uwch yn Tata Steel a'r cwmnïau a’i rhagflaenodd. Roedd fy rolau amrywiol yn cwmpasu datblygu busnes, gwasanaethau technegol i gwsmeriaid, datblygu cynnyrch a marchnata. Fi oedd eu Cyfarwyddwr Marchnata am chwe blynedd cyn i mi ymddeol yn 2016.

Hyfforddais fel gwyddonydd yn wreiddiol gyda PhD mewn Cemeg ac rydw i’n Beiriannydd Siartredig hefyd. Serch hynny, rydw i wedi treulio’r rhan fwyaf o’m gyrfa yn canfod y ffordd orau o gael gwerth o farchnadoedd targed. Roedd y diddordeb hwn yn deillio o’m hastudiaethau MBA ddiwedd y 90au pan arbenigais mewn marchnata rhyngwladol. Mae gen i ddiddordeb brwd hefyd mewn arloesedd, datblygu cynnyrch newydd, marchnata digidol, cynaliadwyedd a newid hinsawdd - pynciau sy'n gallu dylanwadu'n gryf ar strategaeth a datblygiad cwmnïau.

Bellach rydw i’n awyddus i ddefnyddio’r arbenigedd a’r profiad hwn i helpu cwmnïau i dyfu a llwyddo yn eu marchnad. Fy mwriad yw defnyddio’r sgiliau busnes hyn, ynghyd â'r sgiliau mentora rydw i wedi’u datblygu dros y blynyddoedd mewn amryw o swyddi rheoli llinell, i helpu unigolion i dyfu eu busnes ac arwain eu sefydliadau yn llwyddiannus.

Dros y blynyddoedd, rydw i wedi arwain timau mawr iawn o wyddonwyr a gweithwyr marchnata proffesiynol a darganfod bod gen i awch am helpu pobl i ddatblygu a llwyddo yn yr hyn y maent am ei wneud.

  • Enw
    Terry Goodwin
  • Rôl
    Pennaeth
  • Lleoliad
    Sir y Fflint