Adrian Green

Ar ôl gweithio yn yr Amgylchedd B2B dros y 36 blynedd diwethaf, rwyf yn falch iawn o fod yn rhan o Raglen Fentora Busnes Cymru.

Wedi hyfforddi fel Metelegydd yng ngweithfeydd Dur Port Talbot, roedd yn rhaid imi newid gyrfa o achos diswyddiad, a dechreuais ddilyn gyrfa yn y byd Gwerthu a Marchnata.
Yn ystod y 20 mlynedd gyntaf, roeddwn yn gweithio i gwmni a oedd yn cyflogi dros 100 o weithwyr, ac roedd y brif swyddfa wedi ei lleoli yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Roeddwn yn cael fy nghyflogi fel Cynrychiolydd Datblygu Busnes yn ne Cymru, yn arbenigo mewn Storfeydd Masnachol a diwydiannol a gosodiadau mewnol.

Gyda llwyddiant, daeth dyrchafiad i Reolwr Datblygu Marchnata yna, Cyfarwyddwr Gwerthu ac yn olaf, Cyfarwyddwr Marchnata eu cwmni gweithgynhyrchu llawr Mezzanine.

Fodd bynnag, ers imi fod yn 30 mlwydd oed, rwyf wedi ysu cael rhedeg fy musnes fy hun! Pryd i wneud y naid anferthol oddi wrth gyflog hael a diogel, bonws, pensiwn a char cwmni i sefyllfa ddieithr oedd y cwestiwn.

Pan oeddwn yn 46, wedi sefydlu busnes gwasanaethau ysgrifenyddol o adref gyda fy ngwraig, penderfynom bod yr amser yn iawn i ddechrau ein busnes ein hun gan ddefnyddio’r wybodaeth a sgiliau yr oeddwn wedi eu hennill yn ystod y 20 blynedd diwethaf!

Ar ôl cynllunio’n ofalus, fe wnaethom sefydlu ‘Advantage Storage and Handling Limited’, a dechreuais redeg elfennau Dylunio, gwerthu a rheoli Prosiect y busnes. £50 oedd gwerth yr archeb gyntaf, a datblygodd hynny i drosiant blynyddol o dros 200k yn y flwyddyn gyntaf a thyfu i 1.1 miliwn y flwyddyn yn gynyddol dros y 16 mlynedd.

Yn ystod y cyfnod hwn, symudom o swyddfa yn y tŷ i safle diwydiannol, cyflogi staff gweinyddol ac i-sgontractwyr, adeiladu 3 gwefan, safle e-fasnach a threfnu sawl catalog label gwyn.
Rydym wedi gweithio’n ofalus drwy ddirwasgiad, yn cymryd y camau angenrheidiol i barhau â’n llwyddiant.
Fel unrhyw fusnes llwyddiannus arall, rydym wedi gweithio oriau hir, ond wedi mwynhau’r gwaith, wedi dewis a gwerthfawrogi ein cwsmeriaid a hefyd wedi cael digon o hwyl!

Ym mis Rhagfyr 2018, gwerthom y busnes ac ymddeol i Sir Benfro, ac rwyf nawr ar gael i gynnig arweiniad i bobl eraill yng Nghymru sydd ar fin dechrau’r daith yr ydym ni newydd ei gorffen!

 

Gair i Gall

Dylid trin Anfonebau a Gwerthu gyda’r un pwysigrwydd. Mae dim busnes yn well na busnes gwael!
Byddwch yn hyblyg, yn ymgysylltu â’r rheiny sy’n gweithio gyda chi!
Mae cyflwyniad, gwybodaeth a marchnata syml yn hanfodol!

Adrian Green
Adrian
  • Enw
    Adrian Green
  • Enw'r busnes
    Morlun Designs
  • Rôl
    Mentor Busnes
  • Lleoliad
    Sir Benfro