Stacey Adamiec

Mae diddordebau busnes Stacy, yr Entrepreneur di-stop a anwyd yng Nghwm Tawe, yn bennaf yn y sector Creadigol a hamdden, yn arbennig tyfu mentrau cymunedol i bwrpas cymdeithasol yn ymwneud ag adfywio, deorfeydd busnes a hybiau cydweithio creadigol.

Gyda chefndir yn y sector Creadigol ac Adloniant, yn wreiddiol datblygodd Revue Studios fel lle deinamig a arweinir gan bwrpas i bobl Greadigol ddechrau a thyfu eu busnesau yn Abertawe a chael cyfleoedd heb orfod symud i Lundain fel y bu’n rhaid iddi hi ei hun wneud. Arweiniodd hynny at glwstwr o fusnesau cefnogol i wasanaethu ac ychwanegu gwerth i’r gymuned hon yn cynnwys ‘She Started It’, Hyb a Rhwydwaith i Fenywod a arweinir gan Weithgareddau, ‘Revue Creative’, Lle Cydweithio, Revue Dance Studios a manwerthwr dillad Dawns.

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf yn rhedeg busnesau, dod yn fentor ‘damweiniol’ i nifer o fusnesau Creadigol newydd wedi iddi rannu ei straeon am Weledigaeth a Gwaith Caled wrth ddechrau busnes, dechreuodd ddatblygu strategaethau i’w cynorthwyo i fasnacheiddio eu syniadau a’u cynnyrch Creadigol, gan fynd ymlaen i astudio Tystysgrif Ôl-radd mewn Mentora mewn Ymarfer Entrepreneuraidd ym Mhrifysgol De Cymru, a oedd hefyd yn cynnwys astudio cyd-destun rhywedd Entrepreneuriaid benywaidd, ac aeth â’i harbenigedd i Athen yn 2017 i gefnogi datblygiad Menter gan fenywod yn Athen gyda sylfaenwyr benywaidd Ffrengig a Groeg.

Mae’n cymryd rhan weithgar yn y gymuned busesau newydd ac yn angerddol dros daclo’r rhwystrau sy’n atal busnes rhag tyfu, yn arbennig (ond nid yn unig) yn y sector Creadigol, ac erbyn hyn mae’n rhedeg Ymgynghoriad Datrys Problemau ac Eiddo ar gyfer y maes creadigol o’r enw 10C.

Mae Stacy’n siaradwr Cymraeg rhugl, ac mae’n rhannu ei hamser rhwng mentora, siarad, a hwyluso ym maes Menter a Strategaeth Fusnes ac mae’n credu’n gryf mewn cydweithio a dod ag Entrepreneuriaid o’r un anian ynghyd.

Gair i Gall

Dechreuwch cyn eich bod yn barod.

Stacey Adamiec
Stacey Adamiec
  • Enw
    Stacey Adamiec
  • Enw'r busnes
    Entrepreneur ac Ymgynghorydd Diwydiant Creadigol
  • Rôl
    Strategydd a Mentor Busnes
  • Lleoliad
    De Cymru