Tom Anwyl

Ymunodd Tom â’r busnes teuluol yn 2001, gan rannu'r arbenigedd a enillodd wrth astudio am ei radd yng Ngholeg Imperial Llundain - lle bu'n astudio peirianneg sifil - a’i yrfa deng mlynedd gyda Shell International, lle bu'n gweithio yn yr Iseldiroedd ac Oman. Mae'n cymryd diddordeb mewn pob agwedd ar y busnes, ac mae ei waith caled a'i ymroddiad wedi helpu’r busnes i fynd o nerth i nerth, a chyrraedd ble mae heddiw.

Mae Tom yn eiriolwr brwd ar ran BBaChau, ac mae wedi teithio i lawr i Gaerdydd droeon i ymgyrchu dros hawliau BBaChau. Mae hefyd yn credu’n gryf mewn uwchsgilio a chadw gweithwyr o fewn y busnes. Mae pedwar prentis yn gweithio yng ngweithdy Anwyl ar unrhyw un adeg, ac fe wnaeth cyfran sylweddol, 20%, o weithlu Anwyl o 145 ddechrau eu gyrfa yma fel prentis.

Mae Tom wedi bod yn fentor busnes gyda Busnes Cymru ers mis Hydref 2013, ac mae’n defnyddio ei brofiad a’i fri i ddylanwadu ar eraill a gwella cymunedau lleol o'i gwmpas lle bynnag y bo modd. Mae'n ymweld ag ysgolion ac yn mynychu Diwrnodau 'Byd Gwaith’, ac yn noddi amrywiaeth o achosion a thimau chwaraeon lleol. Ef a sicrhaodd bod Anwyl yn ymuno â chynllun Llysgennad Adeiladu y CITB, ac yn sgil hynny enillodd ein Llysgennad diweddaraf, Matthew Allport, Wobr 'Canmoliaeth Uchel' yng Ngwobrau Llysgennad Adeiladu y Flwyddyn 2014 CITB.

Mae profiad Tom yn y diwydiant, a’i frwdfrydedd am BBaChau a chynnig cyfleoedd i bobl yn y gymuned leol, yn ei wneud yn fentor busnes ysbrydoledig a theilwng.

Gair i Gall

"Gwrandewch ar eich greddf. Os oes gennych chi deimlad am rywbeth – boed dda neu ddrwg – rydych chi’n gywir gan amlaf!"

Tom Anwyl
  • Enw
    Tom Anwyl
  • Rôl
    Cyfarwyddwr
  • Lleoliad
    Sir Ddinbych