Pan rydym yn clywed y gair ‘Gwledig’, mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl yn awtomatig am Ffermio a Choedwigaeth. Y Cymunedau Gwledig a’r bobl sy’n byw a gweithio yn y cymunedau hyn, sydd yn aml iawn ddim yn y sector amaethyddol, yw asgwrn cefn Cymru ond sydd fwyaf tebygol o ddioddef effeithiau allgau cymdeithasol.
Nod y gwaith datblygu lleol dan arweiniad y gymuned yw gwella cyflogaeth a sgiliau a menter gymdeithasol. Mae’r bobl leol yn cymryd rhan mewn datblygu prosiectau yn yr ardaloedd sy’n effeithio arnynt, gan ddefnyddio adnoddau yn yr ardal i fynd i’r afael â’r heriau lleol sy’n effeithio ar bobl leol.
- Y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig – mae’n cynnig cymorth i Grwpiau Gweithredu Lleol a sefydliadau cymunedol eraill ar gyfer cyllid buddsoddi ar draws ystod eang o ymyriadau a luniwyd i atal tlodi a lliniaru effaith tlodi ar gymunedau gwledig, gwella amodau a all arwain at swyddi a thwf yn y dyfodol
- LEADER – mae’n ariannu mentrau penodol a rhai â ffocws o dan Strategaeth Datblygu Lleol pob un o’r deunaw o Grwpiau Gweithredu Lleol daearyddol ledled Cymru. Mae pum thema LEADER ar gyfer Cymru:
- Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol
- Hwyluso datblygiad cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr
- Ystyried ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol
- Ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol
- Manteisio ar dechnoleg ddigidol