Mae gen i brofiad helaeth o ddenu busnes newydd a datblygu galluoedd mewn marchnadoedd hen a newydd (gan gynnwys allforio) ar gyfer cwmnïau ac ymgyngoriaethau technoleg a pheirianneg. Rydw i ar dân eisiau helpu busnesau i dyfu a chyflawni eu nodau strategol.
Rydw i hefyd yn Weithiwr Diogelwch Proffesiynol profiadol, gyda phymtheg mlynedd a mwy o brofiad mewn diwydiant lle mae diogelwch yn hollbwysig. Rydw i’n awyddus i helpu busnesau a phrosiectau i sicrhau bod diogelwch yn cael ei arwain a'i roi ar waith yn effeithlon.