Rwy’n uwch gyfarwyddwr gyda dros 20 mlynedd o brofiad arwain, sy’n gweithio ar lefel bwrdd strategol i ddatblygu, cyfathrebu, gweithredu a chynnal mentrau strategol corfforaethol. Mae gennyf allu wedi ei brofi wrth lywio prosiectau cymhleth ac amlddisgyblaethol drwy arweinyddiaeth effeithiol mewn ystod amrywiol o sectorau, gan gynnwys iechyd, gwasanaethau ariannol, manwerthu, peirianneg, gweithgynhyrchu, teithio a thwristiaeth, technoleg, y celfyddydau a’r trydydd sector.