Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI yn ceisio cefnogi prosiectau arloesol sy'n helpu cymunedau, busnesau neu'r sector cyhoeddus i addasu i fygythiadau parhaus COVID-19. Mae'r Fenter Ymchwil i Fusnesau Bach (SBRI), sy'n gallu cynnig hyd at £50,000 i brosiectau addawol yn cefnogi busnesau sydd â chynhyrchion a gwasanaethau arloesol a fydd yn helpu cymunedau a'r sector cyhoeddus i addasu i effaith barhaus pandemig coronafeirws. Darllenwch fwy yma
Taith rithwir COHES3ION yn parhau
Fel partner ym mhrosiect COHES3ION bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal ymweliadau rhithwir â rhanbarthau partner – y cyrchfan nesaf fydd Rhanbarth Deheuol Iwerddon. Cynhelir yr ymweliad hon ar 15 Hydref a bydd yn rhan o agenda wythnos digwyddiadau dinasoedd a rhanbarthau yr UE. Bydd partneriaid yn clywed am rai o’r arferion gweithio da sy’n cael eu defnyddio ledled y rhanbarth. Cofrestrwch yma.
Contractau gwerth £3 miliwn wedi’u dyfarnu i fusnesau yng Nghymru
Diben Menter Ymchwil Busnesau Bach yw cysylltu heriau cymdeithasol â syniadau arloesol yn y sector diwydiant. Hyd yn hyn mae 18 cystadleuaeth corff cyhoeddus wedi arwain at 40 contract gwerth dros £3million yn cael eu dyfarnu i fusnesau yng Nghymru. Os ydych yn gorff sector cyhoeddus neu fusnes arloesol dysgwch mwy yma
Dyfarnu llwyddiant i brosiect dementia
Enillodd Prosiect Laugh â dderbyniodd cyllid Smart Expertise Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwrthrychau arloesol i bobl gyda dementia ddwy wobr yng ngwobrau Tech4Good y DU: 'Gwobr Dewis y Bobl' a 'Gwobr Enillydd Enillwyr' cyffredinol!
“Sut allwn ni sicrhau ein bod yn brechu’r Cyhoedd yng Nghymru yn ddiogel, effeithiol ac effeithlon?”
Yn ystod yr amserau digynsail hyn, mae’n fwy pwysig nac erioed ein bod yn sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael eu brechu’n llawn. ‘Bydd y GIG yng Nghymru yn brechu oddeutu 1 miliwn o oedolion a phlant ar draws Cymru yn flynyddol, gan gynnwys imiwneiddiadau plentyndod a’r ffliw.’ Mae tymor y ffliw (Medi/Ebrill) yn unig yn gosod pwysau ychwanegol ar adnoddau’r GIG, a chyda’r posiblirwydd o ail don o COVID-19 dros fisoedd y...
Gall y cymorth prosiect COVID-19 RD&I
Gall y cymorth prosiect COVID-19 RD&I gael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau ymchwil, datblygu ac arloesi sy'n mynd i'r afael â'r heriau a gyflwynir gan yr allbtreak coronafeirws. Mae datblygiad cynhyrchu dyfeisiau meddygol, cyfarpar diogelu personol, rheoli heintiau a datrysiadau profi a darparu cynhyrchion diheintio i gyd yn feysydd posibl y gellid mynd i'r afael â hwy drwy'r cymorth. Mae ffurflen gais syml a hefyd proses arfarnu gyflym a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl...
COHES3ION yn mynd yn rhithwir
Fel partner yn rhaglen Interreg yr UE cymerodd Llywodraeth Cymru ran mewn taith ddysgu rithwir i ranbarth Calabria yn yr Eidal i gael gwybod am eu strategaeth arbenigo clyfar. Darllenwch fwy am raglen COHES3ION a'r arferion da a ddysgwyd o'r ymweliad
Rhaglen Sbarduno Arloesedd Trafnidiaeth Cymru
Ydych chi eisiau'r cyfle i sicrhau contract gyda Trafnidiaeth Cymru? Darganfyddwch fwy am sut y gall y rhaglen sbarduno arloesedd helpu eich busnes i dyfu.
Arloesi i ganfod datrysiadau cyflym diheintio ambiwlansau
Mae GIG Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi herio busnesau i ddatblygu dulliau arloesol newydd cyflym ar gyfer diheintio ambiwlansau yn ystod yr argyfwng Coronafeirws. Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach a’r Sbardunwr Amddiffyn a Diogelwch (DASA), mae busnesau wedi ennill contractau ymchwil a datblygu i weithio gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru. Bydd y busnesau hyn yn mynd ati’n gyflym i ddatblygu atebion er mwyn helpu i gyflymu’r...
Cymorth i Brosiectau Arloesi ar gyfer Ymladd COVID-19
Gall y cynllun Cymorth i Brosiectau Arloesi ar gyfer Ymladd COVID-19 gael ei ddefnyddio i gyllido’r canlynol: Prynu cyfarpar penodol Addasiadau i brosesau presennol Gweithredu prosesau newydd Gallai’r cymorth gael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu dyfeisiau meddygol, Cyfarpar Diogelu Personol a chyflenwi cynhyrchion diheintio. Mae ffurflen gais syml a hefyd proses arfarnu gyflym a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i’r prosiectau hyn ddechrau gwneud gwahaniaeth ar unwaith.