Bydd Rhaglen Cefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART (SMART FIS), sydd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, yn helpu busnesau, sefydliadau ymchwil, academia a chyrff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i arloesi, creu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, a gwella sgiliau, gan helpu i ddatblygu gallu Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a’r capasiti i gefnogi twf cynaliadwy. Bydd buddsoddiad yn targedu gweithgareddau fydd yn helpu i gyflawni'r amcanion a nodir yn strategaeth arloesi newydd Llywodraeth Cymru, Cymru’n Arloesi...
Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn arwyddo cytundeb partneriaeth newydd
Mae asiantaeth arloesedd y DU, Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynllun ar y cyd er mwyn helpu i ddatblygu economi Cymru. Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidog Economi Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Innovate UK, y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyntaf i’w gytuno gyda llywodraeth ddatganoledig. Bydd y cynllun yn golygu bod Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i greu cyfleoedd i arloeswyr ac entrepreneuriaid ledled Cymru. Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mewn digwyddiad a gynhaliwyd...
Strategaeth Arloesi newydd wedi'i lansio er mwyn creu Cymru Gryfach, Decach a Mwy Gwyrdd
Mae'r weledigaeth drawslywodraethol newydd o arloesi er mwyn creu Cymru gryfach, decach, a fwy gwyrdd yn dangos sut y byddwn yn mynd ati i arloesi mewn ffyrdd gwahanol yn y dyfodol; gan fabwysiadu agwedd "seiliedig ar genhadaeth" ac ar gydweithio sy’n cynnwys pedair cenhadaeth: Addysg : Hanfod y genhadaeth hon yw helpu i sicrhau bod gan Gymru system addysg as fydd yn helpu i pobl yng Nghymru i ddatblygu gwybodaeth ac i feithrin sgiliau arloesi...
Arian ar gael i fynychu cyngres IoT yn Barcelona
Hoffech chi ymuno â chynrychiolwyr o sefydliadau Cymreig i fynychu Cyngres y Byd IoT Solutions?
Arloesedd cymorth a cyllid ar gyfer eich busnes
Gall arloesi helpu’ch busnes i fod yn fwy cystadleuol, i gynyddu’i werthiant ac i gipio marchnadoedd newydd. Ydych chi’n fusnes sy’n gysylltiedig â lled-ddargludyddion, electroneg, neu eu cadwyni cyflenwi? Os felly, gallai ein pecyn o gymorth Arloesedd fod ar eich cyfer chi. Rydym yn cynnig: hyd at 8 diwrnod o gymorth wedi’i ariannu’n llawn i gynllunio a gweithredu gwelliannau cynhyrchiant a dylunio cymorth a chyngor arbenigol am ddim i chi fabwysiadu technolegau digidol cyllid arloesi...
Strategaeth Arloesi newydd i Gymru
Mae’r ymgynghoriad ar gyfer y Strategaeth Arloesi newydd i Gymru bellach yn fyw. Mae’r strategaeth draws-lywodraethol yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda’i phartneriaid, yn anelu at ddatblygu diwylliant arloesi bywiog mewn Cymru sy’n gryfach, decach a gwyrddach. Cewch ddweud eich dweud drwy fynd i’r wefan hon. Os hoffech gyfrannu eich safbwyntiau yn bersonol, beth am ddod i un o’n digwyddiadau ymgynghori? Ebostiwch strategaetharloesi@llyw.cymru i gofnodi eich diddordeb.
Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru yn dal i gael cyfraniad o 75% at KTP tan Fawrth 2023
Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) yn rhan sylfaenol o’r ymchwil, datblygu ac arloesi a gynigir i fusnesau yng Nghymru a heddiw, mae Llywodraeth Cymru'n estyn y cynnig tan 2023, er mwyn annog mwy o fusnesau i gydweithio â KTP, i elwa ar y rhaglen a chynyddu twf economaidd a’r effaith gymdeithasol (ar ôl covid). Gyda'r sefyllfa economaidd anodd bresennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu 75% o gostau prosiectau KTP ar gyfer...
Advances Wales – Rhifyn 98 ar gael nawr
I gyd-fynd â Cop 26 a COPCymru, thema’r rhifyn hwn yw newid hinsawdd, gan amlinellu sut mae Arloesedd Cymru’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’r erthyglau’n cynnwys datblygu technoleg i helpu datblygiadau tai sero-net, dulliau cynaliadwy o gynhyrchu beiciau a’r gwaith o ystyried system ynni lleol clyfar wedi’i datgarboneiddio sy’n defnyddio hydrogen di-garbon. Darllenwch rifyn diweddaraf Advances yma
Tri o Gymru wedi'u henwebu ar gyfer gwobrau goreuon KTP 2021
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae tri phrosiect KTP wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau ‘Y Goreuon'. Mae Coleg Prifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Biocatalysts Ltd, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Rhagoriaeth ym maes Peirianneg. Gan ddangos defnydd rhagorol o sgiliau peirianneg, ar y cyd maent wedi gweithredu dulliau newydd o weithio yn ôl graddfeydd llawer llai (‘Ultra Scale-down’) i gynyddu cynhyrchiant gweithgynhyrchu ensymau hyd at 50% mewn rhai achosion...
Cronfa newydd gwerth £1.8 miliwn i annog arloesi yng Nghymru mewn technoleg cerbydau carbon isel
Mae cronfa newydd gwerth £1.8m i annog busnesau i symud y tu hwnt i weithgynhyrchu peiriannau hylosgi mewnol i gynhyrchu technolegau cerbydau carbon isel, gan helpu i ysgogi twf economaidd arloesol yng Nghymru, yn cael ei sefydlu gan Ford a Llywodraeth Cymru. Darllen mwy