Mae Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi yn chwilio am aelodau newydd. I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y cylch gorchwyl a’r ffurflen datgan diddordeb (EOI), cliciwch yma Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch eich ffurflen datgan diddordeb wedi'i chwblhau at innovationstrategy@llyw.cymru erbyn 13 Medi. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn 20 Medi.
Trafodaeth Ymchwil Arloesi
A ydych yn fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mawr yn nyfodol arloesi yng Nghymru, ac ymrwymiad i sbarduno newid? Os felly, hoffai Llywodraeth Cymru a Chyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi ( CCCA) i chi ymuno â nhw ar gyfer sgwrs ddydd Mercher 2 Mehefin i drafod ymchwil ddiweddar i’r tirlun arloesi yng Nghymru a thramor, ac i ddeall blaenoriaethau busnes Cymru o ran arloesi. Archebwch eich lle yma. Os ydych yn y sector cyhoeddus...
Gweithgareddau Rhwydweithio yn y sector Hydrogen gyda Chylch Ymchwil ac Arloesi Québec-Ewrop 15 Mehefin 2021
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cydweithio agosach ac agosach rhwng Cymru a Thalaith Québec yn Canada. Yn awr, gan adeiladu ar waith partneriaeth rhwng Hydro-Québec a Phrifysgol De Cymru i wneud ymchwil i fasnacheiddio technolegau hydrogen, mae’n hyrwyddo digwyddiad rhithwir y mis nesaf a gynhelir gan Gylch Ymchwil ac Arloesi Québec-Ewrop (CRIQUE). Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn darparu cyfle gwych ar gyfer busnesau ac academyddion sydd am fanteisio ar y...
Dyddiad ar gyfer eich Dyddiadur!
I nodi diwrnod cenedlaethol Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni mewn trafodaeth am Arloesi yng Nghymru a chydweithio â phartneriaid yr UE. Bydd y digwyddiad yn gyfle i: glywed am asedau arloesedd Cymru, ddarganfod sut mae arloesedd Cymru wedi ymateb i Covid, weld a chlywed sut rydym yn datblygu a dyfnhau ein cydweithrediadau â phartneriaid rhanbarthol yr UE. Cofrestrwch yma
Gwneud gwaith llywodraethu aml-lefel yn S3
25 Mawrth 2021 Ymunwch â ni yn y digwyddiad lledaenu rhithwir Cohes3ion i glywed gan arbenigwyr blaenllaw ar wneud gwaith llywodraethu aml-lefel mewn Specilisation Smart (S3) Mwy o wybodaeth a chofrestru yma
Cymru'n croesawu partneriaid Ewropeaidd ar siwrnai dysgu rithwir arloesol
Cynhaliodd tîm Arloesi Llywodraeth Cymru'r siwrnai dysgu rithwir olaf yng ngham cyntaf y prosiect COHES3ION, sef prosiect tair blynedd o hyd Interreg yr UE sy'n tynnu ynghyd 10 partner o wyth o wledydd Ewrop — gan gynnwys Cymru — â'r nod o hyrwyddo twf busnesau a chreu swyddi ar draws Ewrop trwy arferion gorau a pholisi. Yn ystod y gyfres o siwrneiau dysgu, mae pob partner yn cael eu hannog i rannu arferion gorau a...
COHES3ION - Cyhoeddi Mapio Tiriogaethol Deallus (STM)
Mae un o allbynnau allweddol Cam 1 prosiect Cohes3ion wedi'i gwblhau drwy gyhoeddi ei Ddogfen Dysgu Polisi. Nod yr ymarfer STM oedd i bartneriaid prosiect o bob rhan o Ewrop wneud diagnosis rhanbarthol o'u Strategaethau Arbenigo Deallus, defnyddir y canfyddiadau ar gyfer datblygu a Gweithredu Cynlluniau Gweithredu Rhanbarthol yng ngham nesaf y prosiect. Darllenwch yma
Her Mwgwd Gwyneb i fusensau arloesol
Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI , gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, yn galw ar fusnesau i gyflwyno atebion blaengar y mae modd eu gweithredu’n gyflym er mwyn mynd i’r afael â her allweddol y mae Gwasanaethau Deintyddol yn ei wynebu yn sgil COVID-19. Mae gan fusnesau hyd 4 Rhagfyr i gyflwyno cais am hyd at £50,000. Darllenwch fwy yma
Her Llywodraeth Cymru am syniadau arloesol mewn ymateb i bandemig coronafeirws
Mae Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI yn ceisio cefnogi prosiectau arloesol sy'n helpu cymunedau, busnesau neu'r sector cyhoeddus i addasu i fygythiadau parhaus COVID-19. Mae'r Fenter Ymchwil i Fusnesau Bach (SBRI), sy'n gallu cynnig hyd at £50,000 i brosiectau addawol yn cefnogi busnesau sydd â chynhyrchion a gwasanaethau arloesol a fydd yn helpu cymunedau a'r sector cyhoeddus i addasu i effaith barhaus pandemig coronafeirws. Darllenwch fwy yma
Taith rithwir COHES3ION yn parhau
Fel partner ym mhrosiect COHES3ION bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal ymweliadau rhithwir â rhanbarthau partner – y cyrchfan nesaf fydd Rhanbarth Deheuol Iwerddon. Cynhelir yr ymweliad hon ar 15 Hydref a bydd yn rhan o agenda wythnos digwyddiadau dinasoedd a rhanbarthau yr UE. Bydd partneriaid yn clywed am rai o’r arferion gweithio da sy’n cael eu defnyddio ledled y rhanbarth. Cofrestrwch yma.