Gadewais yr ysgol gyda llond llaw o gymwysterau a dechreuais weithio’n syth ar Gynllun Hyfforddi Ieuenctid ym 1986, lle dysgais y pethau hanfodol am weinyddu swyddfa. Yn sgil hyn, llwyddais i gael fy swydd gyntaf mewn ffatri ac yna fel gweinyddwr gwerthu gyda chwmni telathrebu, gan gamu ymlaen yn raddol i fod yn rheolwr gwerthu ar gyfer y DU o fewn yr un cwmni.
Yn sgil hyn, dysgais y gall gwaith caled a pharodrwydd i ddysgu dynnu sylw pobl atoch, ac fe wnaeth fy helpu i gamu ymlaen yn fy ngyrfa.