Mae gen i brofiad penodol o fusnesau bach a chanolig. Pam? Oherwydd fy mod wedi llwyddo i greu ac aeddfedu tri busnes gwasanaeth o’r fath fy hun. Felly, nid dim ond ymgynghorydd neu academydd yn rhoi cyngor damcaniaethol o’n i, dwi wedi bod yno fy hun, ac yn hen law ar y broses. Er bod fy musnesau’n rhai tra gwahanol, i mi, mae gofynion craidd rhedeg busnes o’r fath yr un peth. Yn gyntaf, mae’n rhaid talu sylw agos at ‘hanfodion y busnes’, ac yn ail, mae’n rhaid i chi feddwl y tu allan i’r bocs. Mae’n rhaid rheoli’r cyntaf yn gyson ac yn dda, neu cyn bo hir, bydd dim busnes i’w reoli.