CAIS

 

Mae menter gymdeithasol arobryn CAIS yn herio ystrydebau ac annog cyflogwyr i greu gweithlu aml-genhedlaeth ledled Cymru. 
 
Mae CAIS wedi bod yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth personol i bobl yng Nghymru, gan gynnwys mentora i'r rhai sy'n wynebu heriau bywyd (o dai i iechyd meddwl) neu gymorth i gleientiaid sydd am fynd yn ôl i addysg neu gyflogaeth. Arweinir y gwaith hwnnw gan dîm o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys Wendy Williams, a ymunodd â’r sefydliad 17 mlynedd yn ôl pan oedd yn 55 oed. Mae hi bellach yn gweithio yn swyddfa’r sefydliad ym Mangor ac yn teithio ledled gogledd orllewin Cymru i sicrhau gwaith i gleientiaid CAIS.
 
“Pan ddechreuais i, dod i weithio ar brosiect peilot wnes i,” meddai Wendy, 72. “Ar y pryd, roeddwn i wedi bod yn ystyried gwneud cwrs MA, ond â minnau’n agosáu at 60 oed, doeddwn i ddim yn siŵr a fyddai’n werth gwneud hynny. Ychydig a wyddwn i!” Rhyw 17 mlynedd yn ddiweddarach, a hithau’n dal i weithio’n llawn amser, y cyntaf i gyrraedd y swyddfa a heb unrhyw fwriad i ymddeol fel swyddog cyswllt cyflogwyr y sefydliad, mae Wendy wedi hen roi’r gorau i gwestiynu ei hoedran nac unrhyw gyfle i gamu ymlaen yn ei gyrfa.
 
Ymunodd Clive Wolfendale, prif weithredwr CAIS, â’r sefydliad pan oedd yntau’n 52 oed, ac wedi ymddeol ar ôl gyrfa o 34 mlynedd gyda'r heddlu. 
 
“Roeddwn i’n gwybod nad oeddwn i eisiau ymddeol. Roeddwn i’n teimlo’n hyderus o fy ngallu a fy nghymwysterau ac eisiau eu defnyddio mewn ffordd newydd,” meddai Clive.
 
“Rydw i bellach eisiau cynnig y cyfle hwnnw i eraill hefyd. Rwy’n gwybod bod sefydliadau ledled y rhanbarth yn wynebu her go iawn wrth recriwtio pobl gyda’r cymwysterau cywir, ond rwy’n credu’n gryf ein bod ni’n gwneud cam gwag os nad ydym yn ystyried recriwtio pobl dros 50 oed. 
 
“Mae ysfa wirioneddol gan bobl i aros yn egnïol ac yn iach, ac i fyw bywydau hirach, gwell a mwy cynhyrchiol, ac mae’r ffaith fod cyfartaledd oedran ein 240 aelod o staff yn 47 yn dyst i hynny.”
 
I Wolfendale, “mae cynnig hyblygrwydd yn bwysig pan fyddwch chi'n recriwtio, ond dydy hynny'n ddim i wneud ag oedran. Mae'n ymwneud â hamdden a ffordd o fyw, teithio neu astudio, iechyd a lles - mae'n ymwneud â mwynhau bywyd hir, a llai rheoledig o dro i dro, ac â chyflwyno angerdd am hynny a phrofiadau bywyd i'r gweithle.” 
 
“Mae’n anodd cofnodi profiad bywyd yn yr un modd ag y byddwch chi’n cofnodi cymwysterau ar CV,” ychwanega Wendy. “Ond mae profiadau bywyd yn dylanwadu cymaint ar y ffordd rydyn ni’n dysgu, a’r hyn rydyn ni’n ei gyfrannu i’n rolau ac i sefyllfaoedd busnes. A dweud y gwir, rwy’n teimlo bod moeseg gwaith ac ymrwymiad i swydd yn datblygu gydag oedran, fel y mae awydd i aros gyda chwmni yn hytrach na hyfforddi a symud ymlaen.”