Cam Nesa
Mae Cam Nesa yn gyfle cyffrous i fusnesau helpu pobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ddatblygu sgiliau parod i waith a chael mynediad at gyflogaeth ystyrlon.
Gall busnesau yn Abertawe, Ceredigion, Chastell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gâr gymryd rhan yn Cam Nesa i ddarparu cyfleoedd, yn cynnwys:
- Gwirfoddoli
- Lleoliadau gwaith
- Prentisiaethau
- Cyflogaeth lawn amser
Dyma’r manteision i fusnesau
Bydd busnesau yn:
- Cael mynediad i weithwyr newydd yn y farchnad lafur a ariennir drwy gymhorthdal.
- Derbyn unigolion sy’n cael eu dewis yn gweddu i natur eich busnes.
- Datblygu pobl ifanc yn eich ardal leol.
- Cyfrannu at dwf yr economi leol.
Y camau nesaf
Galwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhestr Wirio Rhaglen | Cronfeydd yr UE yng Nghymru | |
---|---|---|
Ardal Cyflenwi | Abertawe, Ceredigion, Chastell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Sir Gâr | |
Statws | Yn fyw | |
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? | Ydi | |
Arweinydd y Rhaglen |
Cyngor Sir Penfro |