Rhaglen Graddedigion Cymru
Dan arweiniad y Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru, mae Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru yn fenter gydweithredol sy'n cynnwys sefydliadau gwasanaethau ariannol blaenllaw sy’n seiliedig yng Nghaerdydd, gan gynnwys: Admiral, Atradius, Composite Legal Expenses, Cyllid Cymru, GM Financial, Grant Thornton, Julian Hodge Bank and Optimum Credit.
Y nod yw:
- Meithrin a chadw'r graddedigion mwyaf dawnus.
- Datblygu ein sector ariannol bywiog yng Nghymru.
- Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddewis gyrfa mewn cyllid.
Y manteision i fusnesau
Bydd y rhaglen yn:
- Creu cronfa dalent i'ch cwmni o bobl broffesiynol ar gyfer dyfodol y diwydiant.
- Cynhyrchu llif o syniadau ar lefel raddedig a meddylfryd academaidd gwerthfawr i'ch sefydliad.
- Cefnogi cydweithrediad rhyngoch chi a phobl ariannol flaengar eraill o'r un meddylfryd er mwyn i chi allu rhannu arferion gorau mewn prosesau hyfforddi.
- Gwella eich strategaeth recriwtio ymhellach a denu'r dalent yr ydych ei angen i sicrhau y bydd eich busnes yn llwyddo yn y tymor hir.
Mae'r rhaglen yn unigryw i Gymru. Mae'r graddedigion yn cychwyn rhaglen lawn amser ddwy flynedd sy'n cynnwys gwaith, hyfforddiant ac astudiaeth academaidd, ac yn rhoi digonedd o gyfle i gwmnïau 'dreialu' hyfforddeion a mesur pa mor effeithiol fyddent o gael eu cyflogi yn y dyfodol. Ar ddiwedd y cytundeb cyfnod penodedig ni fyddwch o dan unrhyw oblygiad i gyflogi unrhyw rai o'r graddedigion yn barhaol. Ar y llaw arall, os byddent wedi profi eu gwerth, mae gennych weithiwr graddedig, sydd wedi cael hyfforddiant cyflawn a fydd yn gallu cychwyn yn y gwaith yn hyderus ar unwaith.
Pa gymorth sydd ar gael i chi?
Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi darparu arian i gyfrannu tuag at gost yr amser hyfforddi mewnol. Ond, mae'r rhaglen yma'n ymwneud a llawer mwy na gostwng gwariant hyfforddiant a recriwtio eich cwmni. Nid arbed arian yw'r diben. Ei nod yw adeiladu sector ariannol cryfach a mwy cadarn yng Nghymru, a sicrhau llwyddiant eich cwmni yn y dyfodol. Mae'r manteision yn gyffyrddadwy ac yn bellgyrhaeddol.
Eich ymrwymiad
Mae'r rhaglen yn dibynnu ar ymrwymiad chwaraewyr blaenllaw o'r Sector Ariannol yng Nghymru. Maent yn gwybod po fwyaf y byddent yn ei roi i mewn i'r rhaglen hon, y mwyaf y byddent yn ei gael allan ohoni.
Cynigir pedwar lleoliad gwaith o chwe mis i'r graddedigion mewn pedwar cwmni gwahanol sy'n cymryd rhan yn y cynllun. Mae hyn yn rhoi'r cyfle iddynt samplu amrywiaeth o lwybrau gyrfaol yn y diwydiant, megis:
- Datblygu Cynnyrch
- Rheoli Cyfrifon Masnachol
- TG/Seiberddiogelwch
- Cyllid/Cyfrifeg
- Dadansoddi Busnes/Risg
- Ymchwil/Strategaeth/Marchnata
Fel cwmni sy'n cymryd rhan, byddwch yn cynllunio a rheoli rhaglenni datblygiad a hyfforddiant strwythuredig. Bydd pob un o'r graddedigion yn astudio ar gyfer Cymhwyster Meistr ac yn gwneud elfen sylweddol o ddysgu seiliedig-ar-waith yn eich gweithle. Bydd y brifysgol yn gweithio'n agos gyda chi i sicrhau bod y cynlluniau hyfforddi i'r graddedigion yn gadarn ac ar lefel Meistr.
Yw eich busnes yn gymwys?
Mae'r Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru i gyflogwyr sydd wedi'u lleoli yn ne-ddwyrain Cymru.
MAE'N AMSER i feithrin talent graddedigion
Galwch Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Ariennir Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Rhestr Wirio Rhaglen | Cronfeydd yr UE yng Nghymru | |
---|---|---|
Ardal Cyflenwi | De-ddwyrain Cymru | |
Statws | Yn fyw | |
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? | Ydi | |
Arweinydd y Rhaglen |
Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru |