W2 Global Data
Mae cwmni W2 Global Data o Gasnewydd yn cefnogi ymgyrch ‘Nid oes gan unrhyw un ddyddiad ar ei orau cyn’, sy’n herio achosion o wahaniaethu ar sail oedran wrth recriwtio ac sy’n darparu pecyn cymorth i berchnogion busnes allu datblygu gweithlu o bob oed.
O’i swyddfa yn Clarence House Casnewydd, mae W2 Global Data yn cynnig gwasanaethau dilysu hunaniaeth er mwyn helpu i osgoi twyll a gwyngalchu arian, ac yn gweithio gyda chant a mwy o gleientiaid ym mhedwar ban byd, o werthwyr ar-lein i ddarparwyr taliadau.
Gyda phob math o ffynonellau data gwahanol ar flaen ei fysedd, mae’r cwmni’n gallu canfod mewn chwinciad a yw’r data a gyflwynwyd gan unigolyn yn ddata go iawn; gall helpu i nodi a yw rhywun sy’n chwarae gemau ar-lein o dan oed, darganfod hunaniaeth y person sydd y tu ôl i gyfeiriad e-bost a hyd yn oed a yw rhywun ar restr droseddol.
Mae nifer y staff ar y gyflogres wedi dyblu ers dechrau’r flwyddyn, gyda thros 40 yn gweithio yno heddiw – tua 35 ohonyn nhw’n byw yn ne Cymru.
Yn ôl Gary Pine, y prif swyddog cynhyrchion, mae’r cwmni wedi mabwysiadu dull pob oedran i recriwtio ers ei lansio yn 2011. Meddai: “Gan ein bod ni’n dal i chwilio am bobl sydd eisiau tyfu gyda’r cwmni, rydym ni’n fusnes newydd bywiog, parhaus. Rydyn ni eisiau pobl sy’n barod i dorchi llewys a bwrw iddi, a dyw oedran yn cyfri dim.
“Rhywun byr, tal, hen neu ifanc – does dim ots gyda ni.
“Yr hyn sydd o ddiddordeb i fi yw a fyddan nhw’n ddiwylliannol-addas i’r cwmni. Beth sy’n eu gyrru a’u grymuso nhw? Ydyn nhw’n gallu cyd-dynnu’n hawdd ag eraill? Does gan hynny ddim byd i’w wneud ag oedran.”
Fe wnaeth Nicky Vaksdal, 51 oed, ymuno fel rheolwr datblygu busnes ym mis Mawrth. Dywedodd y fam i ddau (31 ac 16 oed, a mam-gu i ferch 5 oed) nad yw hi erioed wedi profi achos o wahaniaethu ar sail oed yn y gweithle.
Meddai: “Dw i wedi gweithio gyda busnesau newydd erioed – dw i’n hoffi’r her o fod yn rhan o fusnesau llai, a’u gweld yn tyfu ac yn ychwanegu gwerth. Dw i’n teimlo’n ifanc. Mae oed yn syniad hen ffasiwn, a dyw’r rhai dw i’n gweithio gyda nhw ddim yn ei ystyried yn ffactor.
“Efallai fy mod i’n draddodiadol mewn rhai ffyrdd (dw i’n dal i argraffu ambell neges e-bost) ond dw i’n byw a bod yn ddigidol ac yn llawn syniadau. Mae’r maes technoleg ariannol yn ddiwydiant amrywiol a chyffrous, a dw i’n gweithio ochr yn ochr â phobl yn eu hugeiniau a phobl yn eu chwedegau bob dydd.
“Dw i’n fwy hyderus nawr na phan oeddwn i’n iau, ond does dim byd negyddol o ran oedran, pan ddaw hi’n fater o waith.”
Dywedodd Gary, sy’n hanner cant oed ei hun: “Mae gan Nicky gyfoeth o brofiad a does dim pall ar ei dychymyg. Mae’n arloesol a bob amser yn hapus i newid y status quo – dyna sy’n bwysig. Mae meddyliau ifanc, ffres, yn beth gwych ond mae’r un mor bwysig cyflogi pobl â phrofiad i gysylltu’r syniadau hyn.
“Maen nhw’n gwybod beth sy’n gweithio a beth sydd ddim – chafodd rhai o’r bobl greadigol dw i’n eu nabod mo’u geni felly – mae’n dod gyda phrofiad bywyd.”