CANLLAW I YSGRIFENNU MANYLEB Y PERSON

Byddwch yn benodol

Dylai'r meini prawf y penderfynwch arnynt ymwneud yn uniongyrchol â'r dyletswyddau a nodir yn y swydd ddisgrifiad a chynnwys yr isafswm gofynion sydd eu hangen i wneud y gwaith yn effeithiol.  Po fwyaf eglur ydych chi ym manyleb y person y mwyaf o amser y byddwch yn ei arbed a bydd mwy o siawns o ddenu'r ymgeisydd cywir ar gyfer y swydd.

Byddwch yn deg

Rhaid i chi sicrhau na fyddwch yn cynnwys unrhyw ofynion a all wahaniaethu'n annheg ar sail hil, crefydd neu gred, rhywedd, oedran, tueddfryd rhywiol, anabledd, ail-aseinio rhywedd, priodas/partneriaeth sifil neu feichiogrwydd/mamolaeth.  Adwaenir y rhain fel nodweddion gwarchodedig a mae modd cael rhagor o wybodaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. 

Byddwch yn realistig

Rhaid bod yn ofalus ynghylch gor-ddatgan lefel y wybodaeth, y profiad a'r cymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer y swydd.  Sicrhewch y gallwch gyfiawnhau'n wrthrychol unrhyw gymwysterau a gynhwysir ym manyleb y person; efallai na fydd gan lawer o bobl dalentog y cymwysterau yr ydych yn chwilio amdanynt, gan leihau eich dewis o ymgeiswyr. 

Gosod eich Meini Prawf

Dylid rhannu manyleb y person yn feini prawf hanfodol a dymunol.  Dylid defnyddio hyn yn y broses o lunio’r rhestr fer i wahaniaethu rhwng ymgeiswyr.

  • Meini prawf hanfodol yw'r rhai sy'n hollbwysig ar gyfer cyflawni’r swydd yn foddhaol.  Disgwylir y bydd ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol er mwyn cael eu hystyried yn gymwys i'w penodi.
  • Meini prawf dymunol yw'r rhai sy'n gwella gallu person i wneud y gwaith.  Fel arfer nid yw'r rhain wedi'u rhestru fel rhai hanfodol oherwydd disgwylir y gellid eu caffael ar ôl dechrau yn y swydd.  Er enghraifft, er y gallai gwybodaeth benodol am offer neu dechnegau penodol fod o fudd, gellir ei dysgu hefyd.

Mae'r ffactorau i'w hystyried wrth lunio'r fanyleb yn cynnwys:

  • Sgiliau, gwybodaeth a galluoedd sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r swydd.
  • Lefel a math o brofiad angenrheidiol.
  • Addysg a hyfforddiant, ond dim ond i’r graddau ag y bo'n angenrheidiol ar gyfer gwneud y swydd yn foddhaol, oni bai fod y person yn cael ei recriwtio ar sail potensial yn y dyfodol.
  • Unrhyw feini prawf sy'n ymwneud â rhinweddau neu amgylchiadau personol, y mae'n rhaid iddynt fod yn hanfodol ac yn uniongyrchol gysylltiedig â'r swydd, a rhaid eu cymhwyso'n gyfartal i'r holl grwpiau, waeth beth fo'u hil, crefydd neu gred, rhywedd, oedran, tueddfryd rhywiol, anabledd, ail-aseinio rhywedd, priodas/partneriaeth sifil neu feichiogrwydd/mamolaeth.  Mae gwneud fel arall o bosibl yn wahaniaethol.
     

 Lawrlwythwch