Radnor Hills
Stori Radnor Hills
Mae Radnor Hills, gwneuthurwr dŵr ffynnon a diodydd ysgafn, yn dweud na fydden nhw wedi cyrraedd ble maen nhw heddiw heb eu byddin o brentisiaid.
Enillodd y cwmni wobr Gwneuthurwr Cynaliadwy/Moesegol y flwyddyn Gwnaed yng Nghymru, a gwelodd y busnes gynnydd o 20% mewn twf y llynedd ac mae newydd fuddsoddi £3.5 miliwn mewn llinell gynhyrchu newydd i gynhyrchu dŵr ffynnon mewn tuniau.
Gan weithio ar y cyd â Cambrian Training a Choleg Henffordd, mae Radnor Hills yn cynnig prentisiaethau yn y rhan fwyaf o sectorau'r busnes gan gynnwys rheoli, gweithgynhyrchu, diogelwch bwyd a pheirianneg drydanol a mecanyddol.
Dod o hyd i’r staff cywir
Meddai Dave Pope, Rheolwr Cyffredinol y safle yn Nhrefyclo: “Ar hyn o bryd mae gennym 53 o brentisiaid a’n gobaith yw cynyddu hyn i fwy na 60 erbyn Ionawr 2020.
“Mae prentisiaethau’n ein helpu ni’n fawr fel busnes i symud gyda'r oes, gan ein bod ni'n gallu gwneud yn siŵr bod ein staff yn dysgu'r technegau diweddaraf i symud y busnes ymlaen.
“Mae'r prentisiaethau rydym ni'n eu cynnig yn annog pobl i barhau i weithio gyda ni am fwy o amser, gan fod hynny’n rhoi cyfleoedd cyson iddyn nhw ddatblygu ac ennill mwy o gymwysterau. Os yw pobl eisiau symud ymlaen rywbryd, rydym ni'n falch iawn ein bod wedi cynorthwyo’r staff i gael y cymwysterau cywir a'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i lwyddo.”
Llwyddiant dewis prentisiaeth
Un prentis sydd wedi elwa ar y rhaglen yw Ben Price.
Cyflawnodd Ben achrediad ISO14001 ar gyfer system rheoli amgylcheddol effeithiol y cwmni, ac mae hyn wedi agor y drws i gyfleoedd gwerthu newydd.
Meddai Ben: “Ers i mi ddechrau fy mhrentisiaeth ym mis Medi 2018, rwyf wedi gallu cael blas ar gymaint o rannau o'r busnes ac wedi gweithio fy ffordd i fyny o lawr y ffatri i fod yn Gydlynydd Amgylcheddol.
“Dwi’n gweithio tuag at fy mhrentisiaeth Lefel 5 mewn Rheoli erbyn hyn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at reoli fy nhîm fy hun yn y dyfodol. Rwy'n teimlo y bydd fy mhrentisiaeth yn fy ngwneud i'n rheolwr mwy cyflawn, gan fy mod wedi gweithio fy ffordd i fyny ac yn deall yn iawn beth sut bydd y prentisiaid newydd yn teimlo a'r heriau y byddant yn eu hwynebu.”