Elite Clothing Solutions

 

Mae Gweithredwyr peiriannau dros eu 50 Elite Clothing Solutions yn dal Ar Eu Gorau yn ysbrydoli ceiswyr swyddi

Mae Carol Bridgeman, 54, Catherine Robbins, 56, ac Angela Evans, 66, i gyd wedi cael eu recriwtio gan Elite Clothing Solutions oherwydd eu bod yn meddu ar y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i fentora, hyfforddi, cefnogi a grymuso gweithwyr a cheiswyr swyddi iau.

Menter gymdeithasol yw Elite Clothing Solutions sy’n cael ei rhedeg gan Asiantaeth Gyflogaeth â Chefnogaeth ELITE i helpu pobl sy’n byw gydag anabledd neu sy’n wynebu anfantais i gael mynediad at waith a sicrhau a chynnal cyflogaeth yng Nghymru, gan ddarparu’r holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Maen nhw’n cymryd agwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn tuag at hyfforddiant sgiliau a chymorth mewn swydd i’w helpu i symud ymlaen i’w nod o gyflogaeth â thâl. Gall ceiswyr swyddi gael profiad o wirfoddoli, lleoliadau gwaith neu gyflogaeth â thâl naill ai oddi mewn i’r busnes neu yn y gymuned.

“Yma ym Mlaenau Gwent, mae gwybodaeth ac arbenigedd ein staff yn helpu i gefnogi ein hyfforddeion wrth gynhyrchu dillad gwaith, dysgu defnyddio peiriannau, brodwaith, gwaith tîm, sgiliau cymdeithasol yn y gweithle a moeseg gwaith,” meddai Kathy Rivett, y Prif Swyddog Gweithredol.

“Roedden ni eisiau manteisio ar bwll gwerthfawr o dalent a phrofiad o gynhyrchu dillad yn y cwm, diwydiant a oedd yn rhan annatod o’r Cymoedd tan y 1990au hwyr.

“Mae’n amhosib rhoi gormod o bwyslais ar werth y rhinweddau, sgiliau a chyfoeth profiad bywyd y mae Carol, Catherine ac Angela yn eu cyflwyno i’r gweithle.

“Mae eu gwybodaeth am y diwydiant a’u personoliaethau cefnogol, meithringar yn cael effaith hynod bositif ar y ceiswyr swyddi sy’n mynychu’r fenter.”

“Rydych chi’n dysgu wrth i chi fynd yn h?n,” meddai Carol, sy’n Glerc Cynorthwyol gyda’r fenter. “Rydyn ni i gyd yn famau; rydyn ni wedi arfer delio â phroblemau. Rydyn ni i gyd yn adnabod pobl sy’n wynebu anawsterau. Ac mae gennym ni gymaint o flynyddoedd o brofiad yn y gweithle.”

Ychwanega Angela: “Mae’n fater o fod yn amyneddgar weithiau.”

“Mae pawb yn dweud bod gennych chi fwy o amynedd gyda’ch wyrion nag oedd gennych chi gyda’ch plant eich hun. Mae hynny’n dod drwy wybod – dysgu drwy fyw – fod gan bob unigolyn bwrpas a’r gallu i gyflawni. Mae’n fater o wybod ei bod yn cymryd amser i ddod i adnabod rhywun a chanfod eu potensial.”

Meddai Cath, “Mae’n ymwneud â gwybod bod swydd i bawb yma, a chanfod, meithrin a datblygu doniau unigol.”

 

“Rydw i ac Angela wedi gweithio gyda’n gilydd yn achlysurol ers blynyddoedd,” meddai Carol. “Ar ôl i ni golli’n swyddi, mae’n brofiad arbennig i ddod â’n sgiliau i’r safle hwn a’u defnyddio mewn ffordd sy’n llythrennol yn trawsnewid bywydau pobl eraill.”