Hysbysiad Preifatrwydd Busnes Cymru Ffurflen datganiadau o ddiddordeb
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Busnes Cymru a ac yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) rydym wedi datblygu Rhybudd Preifatrwydd sy'n cynnwys pam ein bod yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau bod eich data personol yn cael eu prosesu'n deg ac yn gyfreithlon ac mewn ffordd dryloyw.
1. Byddwch cystal â chymryd eiliad i ddarllen drwy ein harferion preifatrwydd. Pam ein bod yn casglu a phrosesu'r data a gesglir.
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolwr Data ar gyfer y data personol a ddarperir gennych ar ffurflen EOI Busnes Cymru. Yn unol â'n tasg gyhoeddus, bydd y data'n cael ei ddefnyddio i'ch adnabod chi a darparu'r gefnogaeth fwyaf priodol i chi gan ein partneriaid cyflenwi fel Golley Slaters Tîm Sgiliau Busnes Cymru a'n rhwydwaith addysg dan gontract, darparwyr hyfforddiant preifat , prifysgolion, darparwyr cymunedol.
2. Pwy fydd yn cael gweld eich data:
- Mae'r data hyn yn cael eu rhannu â sefydliadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u contractio'n unswydd i gyflwyno Dysgu Seiliedig ar Waith Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â chynnwys Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb mewn Busnes Cymru.
- Bydd y wybodaeth a gesglir yn hygyrch gan Golley Slaters , Cymru’n Gweithio, Cyngres yr Undebau Llafur, Tîm Sgiliau Busnes Cymru, timau gwasanaeth cymorth Llywodraeth Cymru a'i gweinyddwyr technegol system sy'n cefnogi'r I.T. system. Ni fydd gweinyddwyr technegol system yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.
3. Am ba hyd y cedwir eich manylion?
Bydd eich manylion yn cael eu cadw ar ein systemau yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru am hyd at 6 blynedd fel rhan o'n hyfforddiant parhaus a'n hadolygiadau ansawdd.
4. Eich hawliau.
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
- ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hynny
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (dan rai amgylchiadau)
- gofyn i'ch data gael eu dileu (dan rai amgylchiadau)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk
Gwefan: https://ico.org.uk
Os hoffech unrhyw gymorth i fanteisio ar yr hawliau uchod, cysylltwch â Llinell Gymorth Busnes Cymru drwy ffonio 03000 6 03000 neu drwy ddefnyddio'r ffurflen Cysylltu â ni https://businesswales.gov.wales/cy/cysylltwch-a-ni.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
5. Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Gwybodaeth Chi
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn galluogi'r cyhoedd i ofyn i gael gweld yr wybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Gallai aelod arall o'r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth amdanoch chi fel rhan o gais rhyddid gwybodaeth. Byddem yn cysylltu â chi i wybod eich barn ynglŷn â hyn cyn datgelu unrhyw ddata personol wrth ymateb i gais o'r fath.
6. Newidiadau i'r polisi hwn
Caiff Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau yn cael eu cyhoeddi yma a dônt yn weithredol ar unwaith. Pan fo newidiadau yn cael eu gwneud i'r polisi hwn, byddwn yn cysylltu â chi drwy'r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar eich cyfer yn eich cyfrif i roi cyfle ichi ddarllen y fersiwn newydd.
I gael rhagor o fanylion am eich hawliau ynghylch eich data:
Cyfeiriad:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru