Gwasanaeth i Mewn i Waith

Os ydych yn dymuno penodi pobl i'ch busnes yng Nghaerdydd, neu wella sgiliau'r gweithlu sydd gan eich busnes yn barod, yna gallai'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith arbed arian ac amser gwerthfawr i chi wrth ymdrin a materion penodi ac adnoddau dynol.

Dyma'r manteision i fusnesau

Mae'r gwasanaeth cynghori i mewn i waith yn rhoi pecyn penodi a chyn-gyflogaeth cyflawn i fusnesau. Mae denu staff brwdfrydig o safon uchel yn hanfodol i lwyddiant tymor hir unrhyw fusnes. Eto gall y broses gymryd llawer o amser, fod yn ddrud ac achosi rhwystredigaeth yn aml iawn - yn enwedig os ydych yn cael trafferth canfod pobl sydd a'r sgiliau yr ydych eu hangen. Dyma pam fod cymaint o sefydliadau lleol yn galw am gymorth tim y gwasanaeth i mewn i waith.

Yn ogystal a chynnig cefnogaeth a chyngor arbenigol mewn perthynas a phenodi ac adnoddau dynol, byddwn hefyd yn pennu ymgeiswyr sy'n addas ac yn barod i swydd, yn trefnu cyfweliadau ac yn darparu rhaglenni hyfforddi pwrpasol.

Pa gymorth sydd ar gael i chi?

Gallwn gael gafael ar yr holl bobl leol ar ein llyfrau sy'n ceisio gwaith. Trwy ddethol yr ymgeiswyr mwyaf addas i gael cyfweliad - y rhain sydd wedi dangos bod ganddynt sgiliau sy'n eu gwneud nhw'n addas i'ch busnes - yn ei hanfod, gallwn arbed arian ac amser i'ch cwmni. Dim ond cychwyn y gefnogaeth yw'r gwaith o ddethol y curricula vitae gorau. Byddwn yn gweithredu fel hwylusydd drwy gydol y broses, o'r cychwyn hyd y diwedd.

Dyma'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym:

  • mentora'r ymgeiswyr i sichrau eu bod yn cyrraed y cyfweliad wedi eu paratoi'n dda
  • helpu gyda cheisiadau am swyddi a curricula vitae
  • cynnal cyfweliadau ffug i ymgeiswyr
  • darparu cyfleusterau a lleoliadau i gyflogwyr ar gyfer cyfweliadau a chanolfannau asesu
  • cynghori a chefnogi cyflogwyr yn y broses ddethol

Yn ogystal, mae gan y Gwasanaeth i Mewn i Waith dim o arbenigwyr ym maes hyfforddi sy'n gallu darparu cymwysterau lefel mynediad ar gyfer ystod lawn o sectorau busnes.

Gallwn nid yn unig roi rhaglenni hyfforddi ar waith sydd wedi'u teilwra'n arbennig ac a luniwyd i roi'r holl wybodaeth angenrheidiol i'ch gweithwyr newydd, ond gallwn hefyd hyfforddi eich staff presennol a chodi lefelau sgiliau drwy eich gweithlu cyfan.

Dyma eich ymrwymiad chi

Er ein bod yn ymdrechu i'ch helpu gymaint ag sy'n bosibl, mae llawer ar ol o hyd sy'n rhan o gyfrifoldeb y cyflogwr. Byddwch angen gweithio gyda ni yn ystod y broses, gan neilltuo digon o adnoddau i sichrau y bydd y broses benodi gyfan yn llwyddiannus. Hefyd bydd disgwyl i chi warantu (o fewn rheswm) cyfweliadau i'r rhai a ystyriwn yn addas i'r swydd.

A yw eich busnes chi'n gymwys?

Mae'r holl fusnesau sy'n penodi yng Nghaerdydd yn gymwys i dderbyn cefnogaeth gyda phenodi gweithwyr.

Fodd bynnag, bydd unrhyw gymorth ariannol gyda chost yr hyfforddiant i aelodau o'r staff yn dibynnu ar benderfyniad tim y Gwasanaeth i Mewn i Waith, ac yn dibynnu ar amgylchiadau unigol pob busnes.

 

Ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu cysylltwch â ni.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Rhestr Wirio Rhaglen
Ardal Cyflenwi Caerdydd
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Nac Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Cyngor Caerdydd